Bardd neu ddiddanwr llys oedd Berddig (bl. tua 1050au - 1080au). Mae'r ychydig a wyddys amdano yn deillio o gofnod cwta yn Llyfr Dydd y Farn, sy'n gofnod o'r wybodaeth a gasglwyd yn 1085 a 1086 gan swyddogion Wiliam I, brenin Lloegr.[1]

Berddig
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata

Yn ôl Llyfr Domesday, bardd y brenin Gruffudd ap Llywelyn (brenin Cymru o 1055 hyd 1063) oedd Berddig. Fe'i disgrifir fel ioculator regis, sef "cellweirwr y brenin". Mae hynny'n awgrymu ei fod yn ddiddanwr, yn finstrel neu "jester" efallai, ond rhaid cofio na fyddai'r swyddogion a gasglodd y wybodaeth hon yn gwybod llawer am Gymru a'i harferion ac mae'n bosibl mai bardd llys Gruffudd oedd Berddig. Cofnodir i'r brenin roi tir iddo "ar gyffiniau Gwent", sef yn nwyrain Morgannwg efallai. Mae hynny, a'r ffaith ei fod yn cael ei gofnodi o gwbl gan estronwyr, yn ategu'r posiblrwydd ei fod yn fardd ac felly'n ŵr o statws yn y gymdeithas.[2] Awgryma'r cofnod fod Berddig yn frodor o dde-ddwyrain Cymru, ond does dim modd profi hynny.

Cyfeiriadau golygu

  1. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.e. 'Berddig.
  2. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, tud. 1.

Gweler hefyd golygu