Agor y brif ddewislen
Arfbais Teyrnas Morgannwg

Roedd Teyrnas Morgannwg yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru. Cymerodd y deyrnas ei henw oddi wrth un o'i brenhinoedd cynnar, Morgan Mwynfawr (fl tua 730). Enw arall arni oedd "Gwlad Morgan", a roddodd Glamorgan.

Arfbais Llywelyn Fawr
Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres
Cyfnodau
Cynhanes
Cyfnod y Rhufeiniaid
Oes y Seintiau
Yr Oesoedd Tywyll
Yr Oesoedd Canol Cynnar
Oes y Tywysogion
Yr Oesoedd Canol Diweddar
Cyfnod y Tuduriaid
17eg ganrif
18fed ganrif
19eg ganrif
20fed ganrif
Y Rhyfel Byd Cyntaf
Y cyfnod rhwng y rhyfeloedd
Yr Ail Ryfel Byd
21ain ganrif
Teyrnasoedd
Deheubarth
Gwynedd
Morgannwg
Powys
Yn ôl pwnc
Hanes crefyddol
Hanes cyfansoddiadol
Hanes cyfreithiol
Hanes cymdeithasol
Hanes demograffig
Hanes economaidd
Hanes gwleidyddol
Hanes LHDT
Hanes milwrol
Hanes morwrol
Hanes tiriogaethol
Hanesyddiaeth

Cnewyllyn y deyrnas oedd Glywysing, ond ar adegau gallai hefyd gynnwys Gwent a dau o gantrefi Ystrad Tywi, sef fwy neu lai y cyfan o dde-ddwyrain Cymru.

Daeth y deyrnas i ben pan ddiorseddwyd y brenin olaf, Iestyn ap Gwrgant, gan y Norman Robert Fitz Hammo yn 1093. Llwyddodd disgynyddion Iestyn i gadw gafael ar ran o'r diriogaeth fel Arglwyddi Afan. O hynny allan, cyfyngwyd Morgannwg fel uned i'r ardal sy'n gorwedd rhwng afonydd Nedd a Thaf. Ychwanegwyd arglwyddiaeth Gŵyr i greu sir newydd Forgannwg trwy Ddeddf Uno 1536.

Cynnwys

LlenyddiaethGolygu

Ychydig iawn a wyddom am fywyd llenyddol y Forgannwg gynnar. Ym Muchedd Sant Gwynllwg (ysgrifenwyd tua 1100), dywedir bod bardd o Forgannwg wedi cyfansoddi cerddi'n ymwneud â hanes Morgannwg a Chymru a mawl i'r sant. Yn y Mabinogi disgrifir Gwydion a Lleu Llaw Gyffes yn ymweld ag Arianrhod "yn rhith beirdd o Forgannwg", sy'n awgrymu fod beirdd y deyrnas yn arfer teithio i lysoedd mewn rhannau eraill o Gymru cyn cyfnod y Normaniaid. Yn ogystal, gwyddom fod gan Berddig, bardd y brenin Gruffudd ap Llywelyn, dir "ar gyffiniau Gwent", sef yn nwyrain Morgannwg yn ôl pob tebyg.[1]

Mae nifer o ffugiadau hynafiaethol Iolo Morganwg yn ymwneud â hanes a llenyddiaeth Morgannwg yn yr Oesoedd Canol ac rhaid bod yn ofalus wrth ddewis ffynonellau am y cyfnod gan fod sawl awdur sy ddim yn hanesydd proffesiynol yn dal i ddyfynu yn anfeirniadol o waith Iolo.

BrenhinoeddGolygu

Cantrefi a chymydauGolygu

Fel y nodir uchod, amrywiodd ffiniau'r deyrnas. Rhoddir yma gantrefi Morgannwg a'u cymydau yng nghyfnod y Normaniaid.

CyfeiriadauGolygu

  1. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, tud. 1.

LlyfryddiaethGolygu

  • J. S. Corbett, Glamorgan (1925)
  • T. B. Pugh (gol.), Glamorgan County History (1971)
  • G. Williams, Glamorgan County History (1974)
  • G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948). Pennod I.

Gweler hefydGolygu