Bernard Baron
Gwneuthurwr printiau o Ffrainc oedd Bernard Baron (1696 - 24 Ionawr 1762), a dreuliodd lawer o'i oes yn Lloegr.[1]
Bernard Baron | |
---|---|
Ganwyd | 1696 Paris |
Bu farw | 24 Ionawr 1762 Llundain |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | gwneuthurwr printiau, artist |
Cefndir
golyguGanwyd Baron ym Mharis, yn blentyn i Laurent Baron, ysgythrwr a Françoise (née Aveline) ei wraig. Dysgodd ei grefft gan ei lystad Nicolas-Henri Tardieu.
Gyrfa
golyguYm 1712 symudodd i Lundain ar wahoddiad Claude Dubosc, er mwyn ei gynorthwyo ar ei ysgythriadau o furlun Laguerre yn Marlborough House. Roedd yn un o'r ysgythrwyr Ffrengig a gynhyrchodd set o blatiau ar ôl paentiadau Thornhill yng nghromen Eglwys Gadeiriol Sant Paul, ac ym 1720 cynorthwyodd Dubosc a Nicolas Dorigny gyda'u hysgythriadau wedi seilio ar gartwnau Raphael. Ym 1724 ysgythrodd Baron wyth plât o Fywyd Achilles wedi seilio ar waith Rubens.
Ym 1729, dychwelodd i Baris dros dro lle ysgythrodd bedwar plât ar gyfer y Recueil Jullienne, crynodeb o 271 o ysgythriadau o baentiadau ac addurniadau Watteau a gomisiynwyd gan y gwneuthurwr tecstilau, ysgythrwr a chasglwr celf Jean de Jullienne, a gyhoeddwyd yn y pen draw ym 1735. Mae rhai haneswyr celf wedi awgrymu bod llun gan Watteau o ysgythrwr wrth ei waith, yng nghasgliad yr Amgueddfa Brydeinig, yn bortread o Baron. Hefyd ysgythrodd blât ar ôl Titian ar gyfer y Recueil Crozat, casgliad o brintiau o baentiadau Eidalaidd mewn casgliadau Ffrengig a gyhoeddwyd ym 1742.
Ym 1735 roedd Baron yn un o grŵp o artistiaid blaenllaw yn Llundain a ddangoswyd ym mhaentiad Gawen Hamilton A Conversation of Virtuosis Roedd yn un o bedwar ysgythrwr Ffrengig a gyflogwyd gan William Hogarth i gynhyrchu platiau ar gyfer ei gyfres Marriage à la mode. Ysgythrodd hefyd bortreadau gan Hogarth ac Allan Ramsay, a gweithiau gan Holbein, Rubens, Van Dyck, a Teniers.
Rhoddodd dystiolaeth i bwyllgor Tŷ'r Cyffredin a arweiniodd at y Ddeddf Hawlfraint Ysgythrwyr.
Mae yna enghreifftiau o waith Bernard Baron yng nghasgliadau portreadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain.[2]
Teulu
golyguTua 1722 priododd Grace Lafosse, gwniadyddes gynau, bu iddynt fab.[3]
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref yn Panton Square, Llundain yn 66 mlwydd oed.
Gweithiau
golyguEi waithiau mwyaf nodedig yw:
Portreadau
golygu- King Charles I on Horseback, with the Duke d'Epernon, ar ôl Van Dyck.
- Charles I and Queen, with their two Sons, ar ôl Van Dyck.
- The Nassau Family, o lun yng nghasgliad Iarll Cowper, gan Van Dyck.
- The Pembroke Family, o lun yn Wilton House, gan Van Dyck.
- Henry VIII granting the Charter to the Barber-Surgeons' Company, ar ôl Holbein.
- Robert, Earl of Carnarvon, ac Anna Sophia, Countess of Carnavon, y ddau ar ôl Van Dyck.
- George, Prince of Wales, on Horseback, ar ôl Joseph Antony Adolph.
- Cornells van Tromp, Vice-Admiral of Holland, ar ôl John Vanderbank.
- Dr. Mead, ar ôl Allan Ramsay.
- The Lord Chancellor Hardwick, ar ôl Allan Ramsay.
- The Lord Chief Justice Reve, ar ôl J. Amiconi.
- The Cornaro Family, ar ôl Titian, o lun yng nghasgliad Dug Northumberland.
- Benjamin Hoadly, Bishop of Winchester, ar ôl Hogarth.
Ar ôl paentiadau eraill
golygu- Naw plât o The Life of Achilles, gyda'r teitlau; ar ôl Rubens.
- Belisarius, yn cael eu galw'n anghywir ar ôl Van Dyck.
- Charles I escaping from Hampton Court, ar ôl J. d' Angelis.
- Jupiter and Antiope, ar ôl Titian, gyfer Casgliad Crozat.
- Pan and Syrinx, ar ôl Nicolas Bertin.
- The Card-players a The Temptation of St. Anthony ar ôl David Teniers yr ieuaf
- The Italian Comedians, The Companion, The Two Cousins, Soldiers plundering a Village a The Peasants revenged, ar ôl Watteau.
- St. Cecilia, ar ôl Carlo Dolci.
- Moses exposed on the Nile, ar ôl Eustache Le Sueur.
- Dau blat ar ôl Hogarth Marriage-à-la-mode.
Oriel
golyguDyma ddetholiad o weithiau gan Bernard Baron:
-
Harri VIII Yn Cyflwyno Siarter i Gwmni y Llawfeddygon Barbwr
-
Portread o Robert, Iarll Caernarfon
-
Marriage a la Mode ar ôl William Hogarth
-
Y Gwir Barch. Dr. Benjamin Hoadly Esgob Caerwynt
-
Y teulu sanctaidd yn gorffwys ymysg anifeiliaid yn yr Aifft
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Oxford Dictionary of National Biography - Bernard Baron
- ↑ Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol - Bernard Baron
- ↑ "Collections Online | British Museum - Bernard Baron". www.britishmuseum.org. Cyrchwyd 2020-10-18.