Tiziano Vecellio

(Ailgyfeiriad o Titian)

Arlunydd o'r Eidal oedd Tiziano Vecellio (Almaeneg: Tizian, Ffrangeg: Titien, Saesneg: Titian; tua 148727 Awst 1576). Ystyrir ef yn un o arlunwyr pwysicaf y Dadeni.

Tiziano Vecellio
FfugenwVeccellio, Tiziano Edit this on Wikidata
Ganwydc. 1490 Edit this on Wikidata
Pieve di Cadore Edit this on Wikidata
Bu farw27 Awst 1576 Edit this on Wikidata
Fenis Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fenis Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, drafftsmon, drafftsmon, gwneuthurwr printiau, artist Edit this on Wikidata
Swyddarlunydd llys Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMerch â Drych, Coroniad Crist â Drain, Y Forwyn â'r Gwningen, Gwener Urbino, Portread o Siarl V ar Gefn Ceffyl, Pab Pawl III a'i Wyrion, Tarquinius a Lucretia Edit this on Wikidata
Arddullportread (paentiad), paentiadau crefyddol, paentiad mytholegol, noethlun, peintio hanesyddol, portread Edit this on Wikidata
Mudiadysgol Fenis, yr Uchel Ddadeni Edit this on Wikidata
TadGregorio Vecellio Edit this on Wikidata
PriodCecilia Soldano Edit this on Wikidata
PlantOrazio Vecellio, Tizianello, Lavinia Vecellio Edit this on Wikidata
Llinachteulu Vecellio Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Sbardyn Aur Edit this on Wikidata
llofnod
Bedd Titian yn y Basilica di Santa Maria Glorioso dei Frari, Fenis

Ganed Titian yn Pieve di Cadore, pentref yn y Dolomitau tua 190 km i'r gogledd o Fenis. Bu'n ddisgybl i Gentile Bellini ac yna i'w frawd, Giovanni. Dylanwad pwysig arall arno oedd Giorgione (tua 14771510).

Tua 1508, roedd Giorgione a Titian yn gyfrifol am waith ffresco ar y Fondaco dei Tedeschi yn Fenis. Yn 1511, arluniodd Titian waith ffresco yn y Scuola del Santo yn Padova. Yn 1516, daeth yn arlunydd swyddogol Gweriniaeth Fenis.

Yn 1532, gwnaeth yr Ymerawdwr Siarl V ef yn uchelwr. Yn y blynyddoedd 1530–40 bu'n gweithio yn Urbino. Yn 154546 bu yn Rhufain, ac yn 15481551 yn llys yr ymerawdwr yn Augsburg. Wedi marwolaeth Siarl, bu'n gweithio i Philip II, brenin Sbaen. Claddwyd ef yn y Basilica di Santa Maria Glorioso dei Frari, Fenis.

Gweithiau

golygu