Betysen
(Ailgyfeiriad o Beta vulgaris)
Planhigyn blodeuol yw Betysen sy'n enw benywaidd; caiff y gwreiddyn porffor ei fwyta yn y Gorllewin. Mae'n perthyn i'r teulu Amaranthaceae yn y genws Beta. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Beta vulgaris a'r enw Saesneg yw Beet a'r gwreiddyn yw Beetroot. Mathau eraill o fetys yw'r chard a'r sugar beet. Ceir tair isrywogaeth: Beta vulgaris is-ryw vulgaris.
Math o gyfrwng | tacson |
---|---|
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Beta sect. Beta, Beta subsect. Beta |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Beta vulgaris | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau craidd |
Urdd: | Caryophyllales |
Teulu: | Amaranthaceae |
Genws: | Beta |
Rhywogaeth: | B. vulgaris |
Enw deuenwol | |
Beta vulgaris L. |
Mae'n blanhigyn deuflwydd ydyw, ond weithiau mae'n lluosflwydd. Nid oes ganddo stipwl (neu ddeilen fach). Fel arfer mae'r dail yn ddanheddog ac yn 5–20 cm. Gall y planhigyn dyfu i rhwng 1–2 m.
Porffor yw lliw y rhan fwyaf o fathau o wreiddiau betys ond ceir mathau eraill sy'n felyn ac eraill yn lleiniau coch-a-gwyn.[1]
Gweler hefyd
golygu- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Zeldes, Leah A. (2011-08-03). "Eat this! Fresh beets, nature's jewels for the table". Dining Chicago. Chicago's Restaurant & Entertainment Guide, Inc. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-27. Cyrchwyd 2012-08-03.