Talwrn, Ynys Môn

pentref yn Ynys Môn

Pentref bychan yng nghymuned Llanddyfnan, Ynys Môn, yw Talwrn[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir yng nghanol yr ynys tua 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Llangefni. Rhed y ffordd B5109 drwy'r pentref gan ei gysylltu â Llangefni i'r de ac â Llanddyfnan a Pentraeth i'r gogledd.

Talwrn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2694°N 4.2739°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH484774 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auLlinos Medi (Plaid Cymru)
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Un capel sydd ar ôl yn y pentref, sef Capel Siloam (Annibynnol). Mae Capel Nyth Clyd (Presbyteriaid) wedi cau. Yma hefyd ceir Ysgol Talwrn, ysgol gynradd leol sydd yn nalgylch Ysgol Gyfun Llangefni ac sydd dan fygythiad o gael ei chau am ei bod yn rhy fychan.

Capel Siloam, Talwrn

Ar hen sgwâr y pentref, codwyd cofeb i Gruffudd ab yr Ynad Coch.[3]

Ar wal tŷ Bryn Chwilog ar ochr y lôn o Langefni mae cofeb i'r artist a'r cynllunydd Richard Huws (1902 - 1980). Ei gynllun ef, y Triban, oedd logo Plaid Cymru am flynyddoedd.

I'r dwyrain o Dalwrn ceir Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Bodeilio.

Mae Talwrn yn rhan o gymuned Llanddyfnan. Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 724 o boblogaeth (3 oed a throsodd) Llanddyfnan yn gallu siarad Cymraeg (70.2% o'r boblogaeth 1,032 oedd yn 3 oed neu'n hŷn).[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021
  3. Ffotograph o'r cofeb: Flikr
  4. Tabl KS207WA Cyfrifiad 2011