Betty Campbell
Athrawes ac ymgyrchydd cymunedol o Gymru oedd Betty Campbell MBE (6 Tachwedd 1934 – 13 Hydref 2017) a'r brifathrawes groenddu cyntaf yng Nghymru
Betty Campbell | |
---|---|
Ganwyd | 6 Tachwedd 1934 Tre-Biwt |
Bu farw | 13 Hydref 2017 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pennaeth, ymgyrchydd |
Gwobr/au | MBE |
Bywyd cynnar
golyguFe'i ganed yn Nhre-biwt, Caerdydd, fel Rachel Elizabeth Johnson, yn ferch i Simon Vickers Johnson o Jamaica a'i wraig Honora.[1]
Yn 17 mlwydd oed, a hithau’n astudio am ei Lefelau A, beichiogodd Betty ac yna yn 1953 gadawodd yr ysgol i briodi ei chariad, Robert Campbell. Cafodd ei haddysg yn Lady Margaret High School for Girls, Caerdydd, ac yng Ngholeg Caerdydd.
Gyrfa
golyguYn 1960 a hithau bellach yn fam i dri o blant, fe ddaeth Betty ar draws hysbyseb ym mhapur y South Wales Echo oedd yn nodi bod Coleg Hyfforddi Caerdydd bellach yn derbyn myfyrwyr benywaidd. Yn sydyn, teimlai’r freuddwyd o ddysgu yn fwy real nag erioed ac yn fuan ar ôl ymgeisio, fe’i derbyniwyd hi i’r coleg.[2]
Ei breuddwyd fawr hi oedd cael bod yn brifathrawes ac yn yr 1970au fe wireddwyd y freuddwyd honno pan ddaeth hi’n bennaeth ysgol du cyntaf Cymru yn Ysgol Mount Stuart. Fe’i hysbrydolwyd hi gan ymgyrchwyr gwrth-gaethwasiaeth fel Harriet Tubman a’r mudiad hawliau sifil draw yn yr Unol Daleithiau felly dechreuodd ddysgu’r disgyblion am gaethwasiaeth, hanes pobl dduon a’r system apartheid oedd yn weithredol ar y pryd yn ne Affrica.[3]
Yn 1998, fel aelod o’r Comisiwn dros Gydraddoldeb Hil, fe’i gwahoddwyd i gyfarfod â Nelson Mandela yn ystod ei unig ymweliad ef â Chymru. Bu’n aelod o fwrdd BBC Wales yn yr 1980au gan oruchwylio materion golygyddol a chynyrchu ac, yn 2003, fe’i gwnaed yn gymrawd anrhydeddus Prifysgol Metropolitan Caerdydd am ei gwasanaeth dros addysg a bywyd cymunedol. Cynrychiolodd hi Dre-biwt fel cynghorydd hefyd fel aelod Llafur Cymru ac aelod annibynnol.[4]
Cafodd ei chyfweld gan Nick Broomfield yn 2016 am ei hatgofion personol o ddathlu ei phriodas aur yn Y Gyfnewidfa Lo yn rhaglen ddogfen y BBC 'Going Going Gone: Nick Broomfield's Disappearing Britain'.[5]
Marwolaeth a'i hetifeddiaeth
golyguBu farw Campbell ar 13 Hydref 2017, ar ôl bod yn sâl ers sawl mis.[1]
Ar unwaith, galwodd Cyngor Hil Cymru am godi cerflun er cof amdani, gyda lleoliadau posib ger Canolfan Mileniwm Cymru neu'r ail-ddatblygiad o Sgwâr Canolog, Caerdydd.[6] Yn 2019 roedd Campbell yn un o bum menyw ar y rhestr fer er mwyn codi'r cerflun cyntaf o fenyw mewn lle cyhoeddus yn yr awyr agored yng Nghymru. Cynhaliodd y BBC bleidlais gyhoeddus gan roi sylw i'r pum dewis yn eu rhaglenni newyddion dros wythnos.[7] Ar 18 Ionawr 2019, cyhoeddwyd mai Campbell oedd wedi ennill y bleidlais, ac mai cerflun ohoni hi fyddai'n cael ei godi yn Sgwâr Canolog, Caerdydd, i gyd-fynd â swyddfeydd BBC Cymru yn symud i'r sgwâr erbyn 2019-2020.[8] Cafodd y cerflun ei ddadorchuddio ynghanol Caerdydd ar 29 Medi 2021.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Prifathrawes groenddu cyntaf yng Nghymru wedi marw , BBC Cymru Fyw, 14 Hydref 2017.
- ↑ BBC Wales (2016). "Betty Campbell's fight for childhood dream". Cyrchwyd 22 Mawrth 2018.
- ↑ Llywodraeth Cymru (2016). "Betty Campbell: Stori ysbrydoledig". Cyrchwyd 22 Mawrth 2018.
- ↑ Arwel, Fflur (2017). "Betty Campbell". Prosiect Drudwen. Cyrchwyd 22 Mawrth 2018.
- ↑ Going Going Gone: Nick Broomfield's Disappearing Britain. BBC (25 Mai 2016).
- ↑ "Betty Campbell: Calls for statue of 'iconic' teacher". BBC News. 15 Hydref 2017. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2017.
- ↑ Merched Mawreddog: Betty Campbell , BBC Cymru Fyw, 8 Ionawr 2019. Cyrchwyd ar 10 Ionawr 2019.
- ↑ Betty Campbell yn ennill pleidlais Merched Mawreddog , BBC Cymru Fyw, 18 Ionawr 2019. Cyrchwyd ar 19 Ionawr 2019.
- ↑ "Dadorchuddio cerflun i brifathrawes ddu gynta' Cymru". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 29 Medi 2021.