Birgitta Jónsdóttir

Aelod Seneddol yn yr Althing, senedd Gwlad yr Iâ, yw Birgitta Jónsdóttir (ganed 17 Ebrill 1967). Mae hi'n cynrychioli Hreyfingin ('Y Mudiad') fel AS De Reykjavik. Etholwyd Birgitta i senedd Gwlad yr Iâ yn Ebrill 2009 ar ran 'Y Mudiad', sy'n anelu at ddiwygiad democrataidd y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid y chwith a'r dde. Cyn dod yn AS, bu'n ymgyrchydd ac yn llefarydd i sawl grwp, gan gynnwys Wikileaks,[1] ac "Arbed Gwlad yr Iâ" a "Chyfeillion Tibet yng Ngwlad yr Iâ".

Birgitta Jónsdóttir
Ganwyd17 Ebrill 1967 Edit this on Wikidata
Reykjavík Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, gwleidydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddMember of the 2016-2017 Parliament of Iceland, Aelod o Senedd Gwlad yr Iâ 2013-2016, Aelod o Senedd Gwlad yr Iâ 2009-2013, Aelod o Senedd Gwlad yr Iâ 2009-2013 Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCitizens' Movement, Pirate Party Edit this on Wikidata
MamBergþóra Árnadóttir Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://birgitta.is/ Edit this on Wikidata

Mae hi'n llefarydd ar ran yr Icelandic Modern Media Initiative. Fel AS mae hi'n weithgar yn yr Althing i sicrhau rhyddid y wasg a rhyddid mynegiant yng Ngwlad yr Iâ, symudiad sy'n sicrhau dioglewch WikiLeaks a'i staff yn y wlad honno.[2] Mae hi'n aelod gweithgar o WikiLeaks ers ei sefydlu ac mae hi wedi cynhyrchu fideo i'r wefan.

Yn ogystal, mae Birgitta yn fardd, arlunydd, golygydd, cyhoeddwr ac actifydd rhyngrwyd.

Cyfeiriadau

golygu

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu