Bituriges
Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig Livy, yr oedd y Bituriges yn llwyth Celtaidd a drigai yng Ngâl (Ffrainc heddiw) yn y 6ed ganrif CC. Ystyr yr enw Bituriges yw "Brenhinoedd y Byd", ac mae hyn yn ategu tystiolaeth Livy, sy'n dweud eu bod y llwyth mwyaf grymus yng Ngâl yn amser y brenin Rhufeinig Tarquinius Priscus (fl. 6g CC). Dywed Livy fod y Bituriges dan arweiniad eu brenin Ambigatus wedi mudo i ogledd yr Eidal.
Enghraifft o'r canlynol | llwyth |
---|---|
Math | Y Galiaid |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae awduron Rhufeinig eraill yn gwahaniaethu rhwng dau is-lwyth o'r Bituriges; ymsefydlodd y Vivisci wrth aber Afon Garumna (Afon Garonne) yng nghyffiniau dinas Burdigala (Bordeaux, yn ne-orllewin Ffrainc), tra ymsefydlodd y Cubi yn yr ardal o gwmpas Avaricus (Bourges, yng ngorllewin canolbarth Ffrainc).