Roedd Black Elk (Hehaka Sapa) (c. Rhagfyr 186317 Awst neu 19 Awst 1950) yn Wichasha Wakan (Medicine Man neu Dyn Sanctaidd) enwog o Oglaliad Lakota (Sioux). Roedd yn gefnder i Crazy Horse.

Black Elk
Black Elk gyda'i wraig a'u merch, tua 1890-1910
Ganwyd1 Rhagfyr 1863 Edit this on Wikidata
Afon Powder Edit this on Wikidata
Bu farw19 Awst 1950 Edit this on Wikidata
Pine Ridge Indian Reservation Edit this on Wikidata
Galwedigaethmedicine man, Heyoka, penadur, iachawr Edit this on Wikidata

Ei hanes golygu

Bu'n dyst i sawl digwyddiad pwysig yn hanes rhyfeloedd yr Unol Daleithiau yn erbyn brodorion Americanaidd Canolbarth Gorllewin America. Cymerodd Black Elk ran, yn llanc tua deuddeg oed, ym Mrwydr Little Big Horn, 1876, a chafodd ei anafu yng nghyflafan Wounded Knee yn 1890.

Yn 1887, teithiodd Black Elk i Brydain gyda Sioe Gorllewin Gwyllt Buffalo Bill, profiad annymunol a ddisgrifir ganddo yn y llyfr Black Elk Speaks. [1] Archifwyd 2006-03-24 yn y Peiriant Wayback.

Priododd Black Elk ei wraig gyntaf, Katie War Bonnett, yn 1892. Trôdd ei wraig at Gatholigiaeth, a bedyddwyd eu tri phlentyn yn Gatholigion. Ar ôl marwolaeth Katie yn 1903, cafodd Black Elk ei fedyddio hefyd, gan gymryd yr enw Nicholas Black Elk a gwasanaethu fel categydd. Ond parhaodd i wasanaethu fel arweinydd ysbrydol i'w bobl yn y dull brodorol, am na welai unrhyw wrthdaro rhwng dysgeidiaeth y grefydd Wakan Tanka frodorol, ac athrawiaeth Cristnogaeth. Yn 1905 priododd am yr eil dro, ag Anna Brings White, gwraig weddw gyda dwy ferch. Cawsant dri o blant ychwanegol, a bu farw Anna yn 1941.

Tua diwedd ei oes datgelodd Black Elk hanes ei fywyd, ynghyd â manylion rhai defodau Sioux sanctaidd, i John Neihardt a Joseph Epes Brown i'w cyhoeddi; y canlyniad oedd y gyfrol Black Elk Speaks, a ystyrir yn glasur Americanaidd.

Llyfryddiaeth golygu

Llyfrau Black Elk golygu

  • Black Elk Speaks: being the life story of a holy man of the Oglala Sioux (fel a adroddwyd i John G. Neihardt), Bison Books, 2004; adargraffiad diweddaraf o'r gyfrol a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1932); Testun pdf Black Elk Speaks Archifwyd 2006-03-24 yn y Peiriant Wayback.
  • The Sixth Grandfather: Black Elk's Teachings given to John G. Neihardt, gol. gan Raymond J. Demallie, Gwasg Prifysgol Nebraska, arg. newydd, 1985.
  • The Sacred Pipe: Black Elk's Account of the Seven Rites of the Oglala Sioux (adroddwyd i Joseph Epes Brown), MJF Books, 1997.
  • Spiritual Legacy of the American Indian (adroddwyd i Joseph Epes Brown), World Wisdom, 2007.

Llyfrau am Black Elk golygu

  • Black Elk and Flaming Rainbow: Personal Memories of the Lakota Holy Man, gan Hilda Neihardt, Gwasg Prifysgol Nebraska, 2006. ISBN 0-8032-8376-8
  • Black Elk: Holy Man of the Oglala, gan Michael Steltenkamp
  • Black Elk: Colonialism and Lakota Catholicism, gan Damian Costello

Dolenni allanol golygu