Black Elk Speaks yw hunangofiant Black Elk (Hehaka Sapa) (18631950), a oedd yn Wichasha Wakan (Medicine Man neu Ddyn Sanctaidd) enwog o Oglaliad Lakota (Indiaid Sioux). Roedd yn gefnder i'r pennaeth enwog Crazy Horse. Cyhoeddwyd yr hunangofiant yn 1932, wedi ei gofnodi gan yr awdur John G. Neihardt o gyfweliadau gyda Black Elk.

Black Elk Speaks
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurJohn Neihardt Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1932 Edit this on Wikidata
Genrecofiant Edit this on Wikidata
Prif bwncBlack Elk Edit this on Wikidata
Clawr y llyfr Black Elk Speaks.

Yn y llyfr mae Black Elk yn adrodd hanes ei fywyd, gan ddechrau gyda'i blentyndod fel aelod o'r Oglala Sioux rhydd yn yr hyn a elwir heddiw yn Canolbarth Gorllewin America (neu'r Mid-West). Cafodd ailenedigaeth ysbrydol pan yn llanc a daeth yn Wichasha Wakan, un o'r gwŷr sanctaidd a arweiniai eu pobl mewn materion ysbrydol. Cafodd weledigaeth o Chwech Taid cenedl yr Indiaid (Americaniaid brodorol), a cheisiai arwain ei bobl ar hyd y "llwybr coch" da.

Yn ogystal â bod yn hunangofiant eithriadol ac unigryw, mae'r gyfrol yn bwysig am ei bod yn rhoi golwg ar hanes y "Gorllewin Gwyllt" yn y 19g o safbwynt y brodorion oedd yn byw ar y Gwastadeddau Mawr. Dro ar ôl tro gorfodwyd y llwythi i ymladd am eu tir a'u heinioes yn erbyn y dyn gwyn a'i arfau. Disgrifir blynyddoedd helbulus yr Oglala ac eraill o'r Indiaid wrth iddynt ymladd â'r fyddin Americanaidd ac ymsefydlwyr arfog, gan raddol colli tir a chael eu twyllo'n barhaus gan Llywodraeth yr Unol Daleithiau. Ymhlith y disgrifiadau cofiadwy yn y llyfr, ceir atgofion Black Elk, yn llanc 12 oed ar y pryd, o Frwydr Little Big Horn, pan orchfygwyd Custer a'r Seithfed Farchoglu gan y Sioux dan arweiniad Sitting Bull ac eraill. Ceir yn ogystal hanes trasig cyflafan Wounded Knee, lle cafodd Black Elk ei anafu.

Disgrifia Black Elk ei amser gyda Sioe Gorllewin Gwyllt Buffalo Bill a'i daith i Brydain, a sut y bu'n rhaid iddo geisio ymdopi â ffordd y dyn gwyn.

Llyfryddiaeth golygu

Llyfrau argraffiedig golygu

  • Black Elk Speaks, 1932, William Morrow & Company; 1961 Gwasg Prifysgol Nebraska, gyda rhagymadrodd newydd gan John G. Neihardt, 1979 gyda rhagymadrodd gan Vine Deloria, Jr., adargraffiad 1988: ISBN 0-8032-8359-8, adargraffiad 2000: ISBN 0-8032-6170-5. Yn ogystal ceir sawl argraffiad clawr papur ac argraffiad clawr caled gan Barrie & Jenkins, Llundain, 1972.

Testun ar-lein golygu