Blaen (tirffurf)
Enw ar ben uchaf dyffryn neu gwm yw blaen, fel arfer lle mae llawr y dyffryn yn codi'n fwy serth yn ôl at y mynydd. Defnyddir y term hefyd yn y lluosog, blaenau.
Mae'r ffurf i'w weld yn enw rhai o drefi a phentrefi Cymru, fel Blaenplwyf, Blaenau Ffestiniog a Blaina, ac ardal Blaenau Gwent.