Blaenau Gwent
Mae Blaenau Gwent yn fwrdeistref sirol yn rhanbarth Gwent, de-ddwyrain Cymru. Mae'n ffinio ag ardaloedd awdurdod unedol o Dorfaen a Sir Fynwy i'r dwyrain, Caerffili i'r gorllewin, a Phowys i'r gogledd. Abertyleri, Brynmawr, Glyn Ebwy, a Thredegar yw'r prif drefi.
Arwyddair | Undeb a Rhyddid |
---|---|
Math | prif ardal |
Poblogaeth | 69,713 |
Gefeilldref/i | Oberhausen-Rheinhausen |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 108.7279 km² |
Yn ffinio gyda | Sir Fynwy, Caerffili, Powys, Torfaen |
Cyfesurynnau | 51.7758°N 3.1964°W |
Cod SYG | W06000019 |
GB-BGW | |
- Am yr etholaeth Westminster, gweler Blaenau Gwent (etholaeth seneddol)
Llywodraeth
golyguSefydlwyd y fwrdeistref ym 1974 fel dosbarth llywodraeth leol o Went. Cyfunwyd hen ddosbarthau trefol Sir Fynwy, gan gynnwys Abertyleri, Glyn Ebwy, Nant-y-glo, y Blaenau a Thredegar, yn ogystal â Brynmawr a phlwyf Llanelli yn Sir Frycheiniog.
Ailansoddiwyd ym 1996 fel bwrdeistref sirol, gan eithrio Llanelli a aiff yn lle i Sir Fynwy. Rheolir yr ardal gan Gyngor Bwrdeistref Siriol Blaenau Gwent bellach.
Hanes
golyguMae pobl wedi byw yn yr ardal hon ers dros 4,000 o flynyddoedd. Dyma ble roedd pobl Geltaidd o'r enw'r Silwriaid yn byw. I'r Cymry, yr enw ar yr ardal hon rhwng Afon Sirhywi ac Afon Gwy oedd Gwent. Roedd pobl Gwent yn siarad tafodiaith Gymraeg o'r enw 'Gwenhwyseg' am amser hir iawn. Ym 1542, daeth enw newydd i'r ardal - Sir Fynwy. Yna, daeth y Chwyldro Diwydiannol a daeth newid. Agorodd gwaith haearn yn Sirhywi ym 1779 ac wedyn mewn llefydd fel Glyn Ebwy, Tredegar, a Nant-y-glo. Daeth llawer o bobl newydd i'r ardal i weithio ac roedd llawer iawn yn Gymry Cymraeg. Wedyn, daeth y gwaith glo ac wedyn y gwaith dur. Roedd llawer iawn o bobl yn dod i'r ardal ac roedd iaith y Cymoedd yn newid yn araf o Gymraeg i Saesneg. Ym 1801, roedd 45,000 o bobl yn byw yn yr hen Sir Fynwy ac erbyn 1901, roedd 450,000 o bobl yn yr ardal ac roedd y rhan fwyaf yn siarad Saesneg. Ym 1991, dim ond 2.2% o'r bobl oedd yn gallu siarad Cymraeg, ond erbyn 2001, roedd 9.5% yn siarad Cymraeg ac mae nifer y bobl ifanc sy'n siarad yr iaith yn codi bob blwyddyn, gan fod ysgol gynradd Gymraeg newydd yno o'r enw Ysgol Gynradd Bro Helyg a leolir yn y Blaenau (Ysgol Gymraeg Brynmawr] cyn hynny); Ysgol Gymraeg Bro Helyg.[1]
Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth
golyguRhennir y sir yn 11 o gymunedau:
Gwybodaeth arall
golyguMae gan Blaenau Gwent y lefel uchaf o dlodi plant difrifol yng Nghymru, fel y datgelir gan ddata ystadegol yn ôl adroddiad gan Achub y Plant.
Yn ôl y Cyfrifiad 2011, mae 5,284 o breswylwyr y sir (neu 7.8%) yn gallu siarad Cymraeg, mewn cymhariaeth â 6,417 o siaradwyr (neu 9.5%) yn 2001.[2]
Gefeilldref
golyguGweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Acen Mewn Print (rhifyn Eisteddfod 2010), tud. 14
- ↑ "Siaradwyr Cymraeg fesul awdurdod lleol a grwpiau oedran ehangach, Cyfrifiad 2001 a 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-29. Cyrchwyd 2013-02-09.
Dolenni allanol
golygu- Cyngor Blaenau Gwent Archifwyd 2009-09-06 yn y Peiriant Wayback
- Cell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Blaenau Gwent a Chaerffili
Trefi
Abertyleri · Blaenau · Bryn-mawr · Glynebwy · Tredegar
Pentrefi
Aber-bîg · Brynithel · Cendl · Cwm · Cwmtyleri · Chwe Chloch · Llanhiledd · Nant-y-glo · Rasa · St Illtyd ·
-->Swffryd · Tafarnau-bach · Trefil · Y Twyn · Waun-lwyd