Mae Bleurville yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Dwyrain Mawr, Ffrainc. Mae'n ffinio gyda Marey, Monthureux-sur-Saône, Nonville, Provenchères-lès-Darney, Saint-Julien, Serocourt, Tignécourt, Viviers-le-Gras, Attigny ac mae ganddi boblogaeth o tua 289 (1 Ionawr 2021).

Bleurville
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth289 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd20.25 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMarey, Monthureux-sur-Saône, Nonville, Provenchères-lès-Darney, Saint-Julien, Serocourt, Tignécourt, Viviers-le-Gras, Attigny Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.0606°N 5.9631°E Edit this on Wikidata
Cod post88410 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Bleurville Edit this on Wikidata
Map

Poblogaeth hanesyddol golygu

 

Hanes golygu

Mae pobl wedi bod yn byw yn yr ardal lle saif Bleurville ers y cyfnod cyn hanesyddol. Canfuwyd gweithdy gwneud offer llaw yn dyddio yn ôl i tua 300,000 CC. Mae yna olion o’r cyfnod Neolithig hefyd, sef man lle fu’r trigolion Celtaidd yn addoli’r haul, ac mae yna olion sy’n awgrymu bod pobl wedi parhau i addoli’r haul yn y cyffiniau hyd at yr oesoedd canol. Mae yna olion o feddrodau o Oes yr Haearn, (rhwng 500 a 200 CC).

Bu’r Rhufeiniad yn rheoli’r ardal o’r ail ganrif OC, ac mae yna olion o fila Rufeinig gyda baddonau yn y gymuned.

O’r 10g daeth Bleurville yn gyrchfan i bererinion wedi i offeiriad o’r enw Mérannus dod a chreiriau’r Saint Berthaire ac Athalein i’r gymuned ac adeiladu eglwys fel cartref iddynt. Yn hanner cyntaf yr 11g adeiladwyd lleiandy er mwyn gwasanaethu’r pererinion. Yn 1128, bu’r lleianod ymadael a’r abaty af fe’i trowyd yn briordy syml yn ddibynnol ar abaty Sant-Mansuy, Toul. Ym 1629, unwyd Priory Bleurville yn unedig ag eglwys Saint-Nicolas-de-Port yn Varangéville. Dyma ddechrau dirywiad araf: gwariwyd y rhan fwyaf o'r incwm ar adnewyddu basilica enwog Saint-Nicolas-de-Port ac ar gyfoethogi archesgobaeth Nancy.

Rhwng 1618 a 1648 ymladdwyd y Rhyfel 30 mlynedd yng nghanolbarth Ewrop. Rhyfel rhwng taleithiau Protestaniaid a Chatholig. Collodd 8 miliwn o bobl eu bywydau yn y rhyfel. Rhwng 1635 a 1637 dioddefodd Bleurville ymosodiadau gan filwyr Ffrainc, Lorraine a Sweden cafodd y gymuned ei ysbeilio a’i losgi i’r llawr. Ychydig wedi i’r rhyfel darfod cafodd y pentref ei ysbeilio eto gan y pla. Rhwng y ddau, dim ond llond llaw o bobl oedd yn parhau i fyw yn y gymuned erbyn diwedd y 1660au.

Dechreuodd y gymuned tyfu’n eto erbyn diwedd y 18g, gyda phobl yn cael eu cyflogi yn y coedwigoedd a gwaith oedd yn ddibynnol ar goed megis cryddion, saer, masnachwr coed a gwneuthurwyr golosg.

O ddechrau’r chwildro diwydiannol trodd y gymuned yn ôl i un oedd yn bennaf dibynnol ar amaethyddiaeth.


Safleoedd a Henebion golygu

  • Safle Neolithig yng nghoedwig Belle-Perche: Creigiau Mulot (olion traed dynol a cheffylau wedi'u cerfio yn y tywodfaen, presenoldeb symbol swastika o ddiwylliant yr haul, croesau lluosog yn cristianiddio'r lle o ddiwylliant cyn Gristionogol).
  • Golchdy dillad cymunedol o'r 19 ganrif
  • Eglwys Sant Pedr mewn cadwyni adeiladwyd yn wreiddiol yn y 15g
  • Crypt Abaty St Maur 10-11g

Gweler hefyd golygu

Cymunedau Vosges

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


  Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.