Blodyn y fagwyr

(Ailgyfeiriad o Blodau'r fagwyr)

Planhigyn blodeuol bychan yw Blodyn y fagwyr sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Brassicaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Erysimum cheiri a'r enw Saesneg yw Wallflower.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Blodyn y Fagwyr, Blodau Gorffennaf, Blodau Mamgu, Blodau'r Gwenyn, Blodyn Llaw, Fioled Felen Aeaf, Ffarwel Haf, Llawlys, Llysiau'r Fagwyr, Llysiau'r Llaw, Melyn y Gaeaf a Murwyll.

Blodyn y fagwyr
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Erysimum cheiri
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Brassicales
Teulu: Brassicaceae
Genws: Erysimum
Rhywogaeth: E. cheiri
Enw deuenwol
Erysimum cheiri
Carl Linnaeus
Cyfystyron

Cheiranthus cheiri

Mae'r dail ar ffurf 'roset' a chaiff y planhigyn ei flodeuo gan wenyn. Mae'n frodorol o Ewrop, and cyflwynwyd ef i laweer o wledydd eraill oherwydd ei fod yn flodyn cyffredin mewn gerddi erbyn heddiw. Giroflée a ravenelle yw ei enwau Ffrangeg, Goldlack mewn Almaeneg, alhelí yn Sbaeneg a violacciocca mewn Eidaleg.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. Germplasm Resources Information Network (GRIN) (Agricultural Research Service (ARS), United States Department of Agriculture (USDA))
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: