Blodau Cerdd
cyfnodolyn
Cylchgrawn cerddorol ar gyfer pobl ifanc yr Ysgolion Sul[1] oedd Blodau Cerdd (1852-1853), a byddai'n cynnwys gwersi cerddorol a thonau. Er iddo gael derbyniad fel y cylchgrawn cerddorol cyntaf yn y Gymraeg, yn dechnegol llyfr wedi ei gyhoeddi mewn saith rhan ydoedd. Golygwyd y cylchgrawn gan y cerddor John Roberts (Ieuan Gwyllt) (1822-1877). Rhagflaenwyd ef gan Y Cerddor Eglwysig[2] (1846 & 1847) a gyhoeddwyd gan John a Richard Mills, Llanidloes, ac fe'i dilynwyd gan Ceinion Cerddoriaeth, 2 Gyf [3] (1852-1856) o waith Thomas Williams, Llanidloes.
Enghraifft o'r canlynol | cyfnodolyn, cylchgrawn |
---|---|
Golygydd | John Roberts |
Cyhoeddwr | David Jenkins |
Gwlad | Cymru |
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1852 |
Lleoliad cyhoeddi | Aberystwyth |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |