Blodyn menyn

(Ailgyfeiriad o Blodyn ymenyn)

Planhigyn lluosflwydd, unionsyth, blewog ydy blodyn menyn neu blodyn ymenyn (Saesneg: meadow buttercup; Lladin: Ranunculus acris). Mae'n perthyn i deulu'r Ranunculaceae. Fe'i gwelir fel arfer ar laswelltir llaith, ar lwybrau'r goedwig, ar ochrau'r ffyrdd neu mewn corsydd. Ers talwm, cyn dyfod y chwyn laddwr, fe newidiai'r blodyn hwn liw caeau cyfan o wyrdd i felyn.

Blodyn menyn
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Safle tacsonrhywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonblodyn melyn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Blodyn menyn
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Urdd: Ranunculales
Teulu: Ranunculaceae
Genws: Ranunculus
Rhywogaeth: R. acris
Enw deuenwol
Ranunculus acris
L.

Mae hwn yn blanhigyn gwenwynig a gall achosi briw ar y croen.

Gall dyfu rhwng 30–100 cm o uchder. Mae'r blodau'n felyn disglair iawn (oherwydd fod golau'n adlewyrchu oddi ar y celloedd starts y tu fewn i'r petalau. Maent rhwng 15-25mm ar draws gyda 5 petal yn glystyrau llac. Mae'r dail wedi'u rhannu'n ddwfn a cheir un hedyn gyda phen fel bachyn.

Gweler hefyd golygu