Blwyddyn galactig

Blwyddyn galactig yw'r cyfnod o amser sydd ei angen i Gysawd yr Haul gylchdroi o amgylch canol y Llwybr Llaethog, ein galaeth ni. Mae amcangyfrifion o hyd un cylchdroad yn amrywio o 225 i 250 miliwn blwyddyn daearol, ac amcangyfrifir oed bresennol Cysawd yr Haul i fod rhwng 18 a 22 flwyddyn galactig. Fe'i defnyddir yn aml mewn seryddiaeth i fesuro digwyddiadau dros gyfnod hir o amser (mae graddfa seiliedig ar un biliwn o flynyddoedd yn creu unedau rhy fawr ac mae miliwn o flynyddoedd yn creu rhifau mawr iawn ar gyfer rhai digwyddiadau seryddol). Weithiau cyfeirir at y raddfa amser hon fel "blwyddyn gosmig", ond gan amlaf cyfyngir y term hwnnw i'r raddfa amser a ddyfeisiwyd gan y seryddwr Carl Sagan.

Blwyddyn galactig
Enghraifft o'r canlynoluned amser Edit this on Wikidata

Dolenni allanol golygu