Bob Owen, Croesor

hanesydd, llyfrbryf ac achyddwr

Hynafiaethydd a chasglwr llyfrau oedd Bob Owen Croesor (Robert Owen: 8 Mai 1885 - 30 Ebrill 1962). Roedd yn frodor o Lanfrothen yn yr hen Sir Feirionnydd (Gwynedd heddiw), ond treuliodd ran helaeth o'i oes ym mhentref Croesor, wrth droed y Cnicht a'r Moelwynion.

Bob Owen, Croesor
Bob Owen yng nghanol ei lyfrau gyda'i wraig Nel yn 1958. Llun gan Geoff Charles.
Ganwyd8 Mai 1885 Edit this on Wikidata
Llanfrothen Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ebrill 1962 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhanesydd, achrestrydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Brodor o Groesor oedd Bob Owen. Priododd âg Ellen (Nel) Jones yn 1923. Yn ôl pob sôn treuliodd ei fis mêl yn Aberystwyth yn y Llyfrgell Genedlaethol. Roedd iddynt un mab a dwy ferch.[1]

Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn hanes lleol, hanes y Cymry yn America ac achyddiaeth Gymreig. Darlithiai i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr a daeth yn adnabyddus felly i'r werin. Roedd ei dŷ bychan yng Nghroesor yn enwog am fod mor llawn o lyfrau a phapurau o bob math fel prin y gellid symud yno, yn llythrennol.[1]

Cof golygu

Enwyd Cymdeithas Bob Owen, cyhoeddwyr Y Casglwr, ar ei ôl pan gafodd ei sefydlu yn 1976.

Llyfryddiaeth golygu

  • Dyfed Evans, Bywyd Bob Owen (Gwasg Gwynedd 1977). Cofiant.
  • Geraint Jones (gol.), Dyfed Evans yng nghwmni Bob Owen, Croesor (Gwasg Utgorn Cymru, 2007)
  • Robin Williams, Y Tri Bob (Dinbych, 1970)
  • Robin Williams, Y Tri Bob (recordau Teledisc, Abertawe, 1965) record; https://www.discogs.com/Robin-Williams-Y-Tri-Bob/release/2607912

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Dyfed Evans, Bywyd Bob Owen (Gwasg Gwynedd 1977).


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.