Bodh Gaya
Dinas yn India yw Bodh Gaya neu Bodhgaya (hefyd Bodh-Gaya). Saif yn nhalaith Bihar. Mae'n enwog fel y man lle cyrhaeddodd Gautama Siddhartha, y Bwdha hanesyddol, ei Oleuedigaeth. Bodh Gaya yw'r bwysicaf o bedair man pererindod i ddilynwyr Bwdiaeth; y tair arall yw Kushinagar, Lumbini a Sarnath. Roedd ei phoblogaeth yn 2001 yn 30,883.
![]() | |
Math |
anheddiad dynol, Nagar Panchayat ![]() |
---|---|
![]() | |
Poblogaeth |
45,349, 38,439, 30,883 ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+05:30 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Gaya district ![]() |
Gwlad |
![]() |
Uwch y môr |
108 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
24.6833°N 85.0333°E ![]() |
Cod post |
824231 ![]() |
![]() | |
Yn ôl y traddodiad Bwdhaidd, daeth y tywysog Gautama Siddhartha yma tua 500 CC, fel mynach yn ceisio gweledigaeth. Eisteddodd dan goeden Bodhi (Ficus religiosa; mae'r gair Sansgrit bodhi yn golygu 'Goleuedigaeth') yma, ac wedi tri diwrnod a thair noson o fyfyrio, cyrhaeddodd Oleuedigaeth, a'r atebion i'w gwestiynau. Wedi saith wythnos, teithiodd i Sarnath, lle dechreuodd bregethu Bwdhiaeth.
Ceir nifer fawr o demlau Bwdhaidd yma, gyda theml yn cynrychioli pob gwlad Fwdhaidd. Y brif deml yw Teml Mahabodhi. Credir i'r deml yma gael ei sefydlu gan yr ymerawdwr Asoka a ymwelodd â Bodh Gaya ar ôl troi'n Fwdhydd a gadawodd arysgrif yno. Mae'r adeilad presennol yn ddiweddarach. Mae'n 160 troedfedd o uchder ac mae'n cynnwys cerflun anferth o'r Bwdha wedi'i gildio ag aur. Ceir nifer o stupas o gwmpas y deml wedi'u codi mewn diolch gan bererinion dros y canrifoedd. Yr olion hynaf ym Modh Gaya yw'r rhannau o'r hen glawdd neu ffens, yn bileri carreg cerfiedig, a safai o amgylch y deml wreiddiol.
Cyhoeddwyd Bodh Gaya yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2005.
Cyfeiriadau a darllen pellachGolygu
- Buddhist Shrines in India (Delhi: Gweinyddiaeth Gwybodaeth, Llywodraeth India, 1994)