Bihar
Mae Bihar (Hindi: बिहार, Urdu: بہار) yn dalaith yn nwyrain India. Y brifddinas yw Patna. Mae'r dalaith yn ffinio â Nepal yn y gogledd, â thalaith Uttar Pradesh yn y gorllewin, Jharkhand yn y de a Gorllewin Bengal yn y dwyrain. Hindi yw iaith swyddogol y dalaith, gydag Wrdw fel ail iaith swyddogol.
![]() | |
![]() | |
Math | talaith India ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | vihara ![]() |
Prifddinas | Patna ![]() |
Poblogaeth | 103,804,637 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Nitish Kumar ![]() |
Cylchfa amser | UTC+05:30 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | India ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 94,163 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Jharkhand, Gorllewin Bengal, Uttar Pradesh, Eastern Development Region, Central Development Region ![]() |
Cyfesurynnau | 25°N 85°E ![]() |
Cod post | 800XXX - 855XXX ![]() |
IN-BR ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Bihar Legislative Assembly ![]() |
Corff deddfwriaethol | Bihar Legislature ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Ram Nath Kovind ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Bihar ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Nitish Kumar ![]() |
![]() | |
Ymhlith y mannau pwysig yn y dalaith mae Bodh Gaya, lle daeth y Buddha yn oleuedig. Yn Bihar y dechreuodd Mahatma Gandhi ei ymgyrch dros ryddid wedi iddo ddychwelyd o Dde Affrica.
Mae tir Bihar yn wastad a ffrwythlon, gyda nifer o afonydd, yn cynnwys Afon Ganga, yn llifo trwy'r dalaith. Er hynny, mae'n un o daleithiau lleiaf datblygedig India, gyda 42.6% yn byw oddi tan lefel tlodi, o'i gymharu a 26.1% yn India yn gyffredinol. Adlewyrchir hyn yn y ffaith fod Bihar yn dioddef lefel uchel o ddacoitaeth (banditri Indiaidd) gyda lladron pen ffordd yn ymosod ar fysus a hyd yn oed ar drenau o bryd i'w gilydd.