Bom llythyr
Dyfais ffrwydrol a anfonir trwy'r post a fwriedir i ffrwydro pan caiff ei hagor yw bom llythyr (weithiau bom post neu fom parsel).[1] Nod bom llythyr yw i anafu neu ladd y derbynnydd, gan amlaf. Danfonir at unigolion neu grwpiau penodol, neu i gyfeiriadau ar hap fel rhan o gyrch derfysgol.
Enghraifft o'r canlynol | weapon functional class |
---|---|
Math | improvised explosive device |
Yn cynnwys | mail item, Ffrwydryn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Digwyddiadau
golygu- Anfonwyd y bom llythyr cyntaf, bocs llawn bwledi a ffrwydron, gan Swediad o'r enw Martin Ekenberg ar 20 Awst, 1904 i'r brif weithredwr Karl Fredrik Lundin yn Stockholm[2]
- O hwyr y 1970au i'r 1990au cynnar, lladdwyd tri ac anafwyd 23 yn yr Unol Daleithiau gan yr anarchydd Theodore Kaczynski (y "Unabomber")
- Yn ystod yr ymgyrch llosgi tai haf yng Nghymru yn o 1979 i 1993 yr unig aelod o Feibion Glyndŵr a garcharwyd oedd Siôn Aubrey Roberts (yn 1993) am anfon dyfais ffrwydrol trwy'r post[3]
- Lladdwyd pedwar ac anafwyd pymtheg gan fomiau llythyr Franz Fuchs yn Awstria yng nghanol y 1990au
- Yn Ionawr a Chwefror 2007, bu fomiwr yn galw ei hunan yn "The Bishop" yn anfon nifer o fomiau di-weithiol i gwmnïau ariannol yn yr Unol Daleithiau (bu'n anfon llythyron bygythiol ers 2005)
- Yn y Deyrnas Unedig yn Chwefror 2007 arestiwyd a chyhuddwyd Miles Cooper yn dilyn cyfres o fomiau llythyr a anafodd naw person[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bowyer, Richard. Dictionary of Military Terms, 3ydd argraffiad (Llundain, Bloomsbury, 2004), t. 141.
- ↑ (Swedeg) Sveriges farligaste uppfinnare. Adalwyd ar 1 Ebrill, 2007.
- ↑ "Erlyn llosgi tai haf: Llugoer", BBC, 10 Mawrth, 2005.
- ↑ "Bom llythyr: Cyhuddo dyn", BBC, 22 Chwefror, 2007.