Bomiau llythyr y Deyrnas Unedig 2007
Mewn cyfnod o dair wythnos yn Ionawr a Chwefror 2007 anfonwyd gyfres o saith bom llythyr yn y Deyrnas Unedig i gwmnïau ac asiantaethau sydd i gyd yn ymwneud â naill ai arbrofi DNA neu gludiant ffordd. Cawsant y llythyron eu hanfon mewn amlenni maint A5 trwchus.[1]
Ar 18 Ionawr anfonwyd tri bom llythyr: un i'r Gwasanaeth Fforenseg yn Chelmsley Wood, Gorllewin Canolbarth Lloegr, un i Orchid Cellmark yn Abingdon, Swydd Rydychen, ac un i gwmni LGC Forensics yn Culham, ger Abingdon. Ar 3 Chwefror anafwyd dyn 53 oed gan ddyfais ffrwydrol a anfonwyd i dŷ yn Folkestone, Caint, gyda chyfeiriad cwmni oedd arfer wedi'i leoli yna arni. Anafwyd gweithiwr ar 5 Chwefror yn swyddfa Capita yn Llundain, sy'n delio â system tâl tagfeydd y brifddinas. Anafwyd dau weithiwr yn swyddfa Vantis yn Wokingham ar 6 Chwefror, ac anafwyd pedwar geithiwr yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn Abertawe ar 7 Chwefror.[2]
Bu'r heddlu yn ymchwilio i'r posibiliad o gysylltiad ag ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid ar ôl gweld enwau dau protestiwr amlwg dros yr achos mewn dau o'r bomiau.[3] Cafodd dyn 48 oed ei holi gan yr heddlu ar ôl dweud i orsaf radio ei fod wedi anfon un o'r bomiau llythyr, ond yna cafodd ei ryddhau.[4] Arestiwyd Miles Cooper, gofalwr ysgol 27 oed, yn Cherry Hinton, Swydd Gaergrawnt ar 19 Chwefror 2007,[1] ac ar 23 Chwefror ymddangosodd o flaen llys wedi'i gyhuddo o 12 trosedd yn gysylltiedig â'r achos: saith trosedd o dan y Ddeddf Sylweddau Ffrwydrol a phum trosedd o dan y Ddeddf Troseddau Corfforol.[5] Ym Mai 2007 gwadodd y cyhuddiadau yn Llys y Goron Rhydychen ar ôl cael ei gadw yn y ddalfa tan ddyddiad i'w bennu.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Bomiau llythyr: Arestio dyn", BBC, 19 Chwefror, 2007.
- ↑ "Bom llythyr: Anafu gweithwyr", BBC, 7 Chwefror, 2007.
- ↑ "DVLA: Hawliau anifeiliaid?", BBC, 9 Chwefror, 2007.
- ↑ "Trafod diogelwch y DVLA", BBC, 12 Chwefror, 2007.
- ↑ "Bom llythyr: Cyhuddo dyn", BBC, 23 Chwefror, 2007.
- ↑ "Ffrwydron: Gwadu cyhuddiadau", BBC, 23 Mai, 2007.