Boncyff a losgir ar Noswyl Nadolig fel traddodiad yng ngogledd Ewrop yw'r boncyff Nadolig neu'r cyff Nadolig,[1] neu ynghynt y Blocyn Gwyliau.[2]

Boncyff Nadolig
Darluniad o halio'r boncyff Nadolig yng nghanol y 19g.
Enghraifft o'r canlynoltraddodiad Nadoligaidd Edit this on Wikidata
MathBoncyff Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Tarddodd yr arfer yn yr hen wledydd Germanaidd, fel rhan bwysig o ŵyl yr Yule i nodi heuldro'r gaeaf. Câi'r boncyff mwyaf ei lusgo i'r llanerch neu gyrion y coedwig, ac ymgynnulla'r gymuned o gwmpas y tân ar gyfer gwledd.[3] Hon oedd noson hiraf y flwyddyn, felly dewisid boncyff mawr i gael mwy o olau a gwres, a chynhelid gwledd i ddathlu bod y gwanwyn yn nesáu. Yn sgil dyfodiad Cristnogaeth i ogledd Ewrop, cafodd yr Yule a'i draddodiadau, gan gynnwys llosgi'r boncyff, eu hailddehongli'n rhan o wyliau'r Nadolig. Dros amser, datblygodd draddodiadau ac enwau lleol ar y boncyff wrth i'r arfer barhau yng Ngwledydd Prydain, yr Almaen a Llychlyn. Yn gyffredinol, daeth llosgi'r boncyff yn achlysur i'r teulu ar yr aelwyd yn hytrach na'r holl gymuned. Arferid cadw'r boncyff yn llosgi yn y lle tân hyd Nos Ystwyll. Yng nghefn gwlad Cymru, cafodd lludw'r boncyff ei gasglu ar ddiwedd adeg y Nadolig a'i roi ar y cae er mwyn sicrhau cynhaeaf ffrwythlon i ddod.[4]

Mae'n debyg bod y boncyff Nadolig ar drengi, gan fod mwy a mwy o Ewropeaid yn cael gwared â'r lle tân o'r tŷ. Goroesir delw'r boncyff gan deisen y boncyff Nadolig, rhôl sbwnj siocled a gaiff ei haddurno gyda siwgr eisin i edrych yn debyg i foncyff yn yr eira.

Ceir defodau Nadoligaidd tebyg yng ngwledydd y Balcanau, y ffagod onennaidd yn Ne-orllewin Lloegr, Festa del Ceppo (Gŵyl y Boncyff) ym mryniau Tysgani, a thraddodiad yng Nghatalwnia o roi boncyff mewn blanced a'i drin fel baban.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur yr Academi, [Yule: Yule log].
  2.  blocyn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2016.
  3. Nadolig: Peth o hanes y traddodiadau (y wefan gwasanaethau). Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2016.
  4. Trefor M. Owen. Welsh Folk Customs (Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1978), t. 48.