Aderyn y bwn

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Botaurus stellaris)
Aderyn y bwn
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Ciconiiformes
Teulu: Ardeidae
Genws: Botaurus
Rhywogaeth: B. stellaris
Enw deuenwol
Botaurus stellaris
(Linnaeus, 1758)
Botaurus stellaris

Mae Aderyn y bwn (Botaurus stellaris) yn aelod o deulu’r crehyrod, yr Ardeidae.

Aderyn mawr, brown yw Aderyn y bwn, 69–81 cm o hyd a 100–130 cm ar draws yr adenydd. Ceir yr aderyn yma ar draws rhannau helaeth o Ewrop ac Asia, ond mae ei niferoedd yn tueddu i leihau, yn rhannol oherwydd sychu gwlybdiroedd. Nid yw’n aderyn mudol mewn rhannau lle nad yw’r dŵr yn rhewi yn y gaeaf, ond yn y rhannau gogleddol mae’n symud tua’r de neu’r gorllewin yn y gaeaf.

Anaml y gwelir yr aderyn yma, gan ei fod yn cuddio mewn hesg Phragmites. Mae weithiau i’w weld yn cerdded yn llechwraidd ar hyd ymylon yr hesg yn chwilio am bysgod bychain neu lyffantod. Gall guddio trwy aros yn hollol lonydd gyda’r pig yn pwyntio i fyny, sy’n ei wneud yn eithriadol o anodd i’w weld ymysg y tyfiant.

Lle mae’r aderyn yn nythu, gellir clywed sain rhyfedd a wneir gan y ceiliog, a elwir y "bŵm". Aferai yr aderyn nythu yng Nghymru ond nid oes cofnodion diweddar o hyn, er bod nifer fychan yn gaeafu yma. Mae'r RSPB yn gwneud llawer o waith i geisio cael yr aderyn yn ôl i nythu yma, yn enwedig ar Ynys Môn, a disgwylir y bydd hyn yn llwyddo yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Enwau golygu

Yn ei lyfr ar enwau’r adar mae Dewi Lewis yn rhestru nifer o enwau lleol ar Aderyn y bwn (sy’n dangos ei fod yn aderyn cynhenid a chyfarwydd ar un adeg pan oedd corsydd yn fwy niferus). Dyma nhw:

  • bwm y gors (cyfeiriad at y sŵn a wneir gan yr aderyn adeg y nythu)
  • bwmp y gors
  • buddai
  • tabwrdd y baw
  • buddair
  • crëyr brych

Ei enw yn Saesneg yw bittern, yn wyddonol Botaurus stellaris. Ei enw yn Ffrangeg yw Butor êtoilé, yr elfen êtoilé yn cyfeirio mae’n debyg at y patrwm serog ar ei gefn neu wddf.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Dewi E. Lewis, Enwau Adar (Gwasg Carreg Gwalch, 1994)