Crëyr

teulu o adar
(Ailgyfeiriad o Ardeidae)
Crehyrod
Amrediad amseryddol:
Paleosen-Presennol,
55–0 Miliwn o fl. CP
Crëyr glas ym Mhorthmadog, Gwynedd; 2021.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Is-ddosbarth: Neornithes
Inffradosbarth: Neognathae
Uwchurdd: Neoaves
Urdd: Pelecaniformes
Teulu: Ardeidae
Leach, 1820
Dosbarthiad y Crehyrod
Cyfystyron

Cochlearidae

Grŵp a theulu o adar dyfrol ydy'r Crehyrod (enw gwyddonol neu Ladin: Ardeidae).[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Pelecaniformes.[2][3]

Mae coesau aelodau'r teulu hwn o adar yn fain ac yn hir iawn. Gallant fyw ar arfordiroedd morol neu lynnoedd a phyllau o ddŵr croyw. Ceir 64 rhywogaeth. Gallant hefyd ymddangos yn hynod o debyg i nifer o deuluoedd eraill e.e. y Ciconiad a'r Ibisiaid, y Llwybig a'r Garannod, ond tra'n hedfan, ceir cryn gwahaniaeth rhyngddynt gan fod eu gyddfau wedi'u tynnu yn ôl, a'r lleill yn syth ymlaen. Mae rhai rhywogaethau'n byw mewn coed ac eraill mewn corsydd o frwyn.

Rhestr Wicidata:

teulu enw tacson delwedd
Aderyn bwn America Botaurus lentiginosus
Aderyn bwn Awstralia Botaurus poiciloptilus
Aderyn bwn rhesog Botaurus pinnatus
Aderyn bwn y goedwig Zonerodius heliosylus
Aderyn y Bwn Botaurus stellaris
Crëyr amryliw Zebrilus undulatus
Crëyr gwartheg Bubulcus ibis
Crëyr gylfinbraff Cochlearius cochlearius
Nyctanassa violacea Nyctanassa violacea
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Bywiadur Llên Natur / Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 3 Mehefin 2016
  2. del Hoyo, J.; Elliot, A. & Christie D. (gol.). (2007). Handbook of the Birds of the World. ISBN 978-84-96553-42-2
  3. ICZN 1999. International Code of Zoological Nomenclature. 4ydd rhifyn. The International Trust for Zoological Nomenclature, Llundain. 306 tt.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: