Brandenburger Tor

Mae'r Brandenburger Tor (Porth Brandenburg) ym Merlin ar y Pariser Platz ym mwrdeistref Mitte (canol y ddinas). Fe'i adeiladwyd rhwng 1788 â 1791 ar gais Friedrich Wilhelm II, brenin Prwsia, gan Carl Gotthard Langhans. Dyma adeilad enwocaf y ddinas, mae'n debyg. Mae'r porth yn symbol genedlaethol ac mae nifer o ddigwyddiadau pwysicaf hanes Berlin, yr Almaen, Ewrop a'r byd yn yr 20g yn gysylltiedig â'r Porth.

Brandenburger Tor
Mathporth gorfoledd, tirnod, border checkpoint, atyniad twristaidd, symbol cenedlaethol, adeiladwaith pensaernïol, porth dinas Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBrandenburg an der Havel Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol6 Awst 1791 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1791 (wedi 1788) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolffin fewnol yr Almaen, Berlin Customs Wall Edit this on Wikidata
LleoliadDorotheenstadt Edit this on Wikidata
SirBerlin Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Cyfesurynnau52.5163°N 13.3777°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth yr Adfywiad Groegaidd Edit this on Wikidata
PerchnogaethBerlin Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb treftadaeth bensaernïol Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddtywodfaen Edit this on Wikidata

Dyma ble oedd y ffin rhwng Dwyrain a Gorllewin Berlin, ac felly'r ffin rhwng y Pact Warsaw a NATO. Roedd hyn yn wir hyd at aduno'r Almaen yn 1990 a daeth yn symbol o'r Rhyfel Oer, ac ar ôl 1990 daeth yn symbol o'r aduno'r Almaen ac Ewrop.

Brandenburger Tor ddoe a heddiw

golygu