Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg
Cyflwyniad i hanes llenyddiaeth Gymraeg hyd at gyfnod y Dadeni gan Saunders Lewis yw Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn 1932 yn Nghyfres y Brifysgol a'r Werin gan Wasg Prifysgol Cymru, lle mae'n dwyn yr is-deitl "Cyfrol 1: Hyd at 1535": ni chyhoeddwyd cyfrol 2 erioed. Ystyrir y llyfr yn garreg filltir yn hanes datblygiad ysgolheictod Cymraeg. Mae'r gyfrol yn ymdrin â hanes llenyddiaeth Gymraeg o'r 6g hyd tua'r flwyddyn 1535, sef cyfnod yr Hengerdd, Beirdd y Tywysogion, Rhyddiaith Cymraeg Canol, a Beirdd yr Uchelwyr.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Saunders Lewis |
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Cymru |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1932 |
Genre | Drama |
Cynnwys
golyguCeir penodau ar waith Aneirin a Taliesin, gwaith Beirdd y Tywysogion (neu'r Gogynfeirdd), arolwg treiddgar o ryddiaith Cymraeg Canol, yn cynnwys Pedair Cainc y Mabinogi a'r Tair Rhamant. Ond mae'r llyfr yn canolbwyntio ar waith y beirdd Cymraeg rhwng tua 1300 a 1535, gyda phennod gyfan ar waith Dafydd ap Gwilym.
Ystyriai Saunders Lewis fod Beirdd yr Uchelwyr (neu'r Cywyddwyr) a'u noddwyr yn cynrychioli'r diwylliant Cymraeg ar ei berffeithiaf. Mae ei feirniadaeth o'r canu hwnnw a'r dadansoddiad o'i gyd-destun cymdeithasol ymhlith y mwyaf dylanwadol o'r gwaith ysgolheigaidd ar ganu Beirdd yr Uchelwyr. Pwysleisia'r beirniad natur gymdeithasol y farddoniaeth a'r modd y cynhaliai seiliau cymdeithas yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Cymdeithas bendefigaidd ydoedd yn ei hanfod, ac mae'r awdur yn pwysleisio'r berthynas organaidd rhwng y bardd a'i noddwr uchelwrol. Mae'n cymharu twf Cyfundrefn y Beirdd neu'r Traddodiad Barddol i eglwys gadeiriol ganolesol, gyda chapeli newydd ac addurniadau eraill yn cael ei hychwanegu i gorff yr eglwys honno gyda threiglad amser, ond mae'r ychwanegiadau hyn yn tyfu o gorff gwreiddiol yr eglwys ac yn cydweddu iddi. Nodwedd arall ar y gwaith yw bod Saunders Lewis yn pwysleisio'r ffaith fod Cymru yn wlad drwyadl Gatholig yn y cyfnod hwnnw a bod hynny i'w weld yn ei llenyddiaeth a'i chrefydd, nodwedd a gawsai ei hesgeuluso gan ysgolheigion Cymreig cyn hynny, gan fod Cymru wedyn yn troi'n wlad Brotestannaidd.
Nodwedd arloesol arall o'r gyfrol yw'r modd y mae'r awdur yn pwysleisio'r cyd-destun Ewropeaidd.
Llyfryddiaeth
golygu- Saunders Lewis, Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1932; argraffiad newydd, 1986)