Yr Hengerdd
Yr Hengerdd yw'r enw a roddir ar y canu cynharaf yn Gymraeg. Mae enwau'r beirdd cynharaf am y canu yn Gymraeg hwn sy'n hysbys yn cynnwys Aneirin, Taliesin, Cian, Talhaearn Tad Awen a Blwchfardd. Dim ond gwaith Aneirin a Taliesin sydd ar glawr heddiw. Mae rhai ysgolheigion yn arfer cynnwys rhan o Ganu'r Bwlch yn y dosbarth hwn yn ogystal. Dyma'r canu cynharaf yn Gymraeg sydd wedi goroesi.
Canai Aneirin a Taliesin i arweinwyr y Brythoniaid yng Nghymru a'r Hen Ogledd yn y 6ed ganrif. Canu arwrol ydyw; cerddi sy'n dathlu bywyd a marwolaeth arwyr o ryfelwyr ac yn canu clodydd brenhinoedd hael fel Urien Rheged (prif noddwr Taliesin) a Mynyddog Mwynfawr (noddwr Aneirin). Mae gwreiddiau'r canu hwnnw'n hen iawn ac yn tarddu o gyfnod y Celtiaid. Er iddo addasu a newid gyda threigliad amser, para'r canu arwrol i fod yn elfen amlwg iawn yng ngwaith y beirdd Cymraeg hyd gyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Canu Aneirin
golygu- Prif: Aneirin a Y Gododdin
Bardd a flodeuodd yn y 6g oedd Aneirin. Priodolir y gerdd arwrol hir 'Y Gododdin' iddo. Mae'r testun cynharaf o'r gerdd honno ar glawr yn y llawysgrif Llyfr Aneirin (tua 1265), sy'n dechrau gyda'r datganiad Hwn yw e gododin. aneirin ae cant ("Hwn yw Y Gododdin; Aneirin a'i ganodd"). Mae'r gerdd yn coffáu arwyr hen deyrnas Manaw Gododdin, oedd a'i phrifddinas yng Nghaeredin. Gelwir y gerdd a darnau eraill o farddoniaeth yn Llyfr Aneirin a briodolir i'r bardd yn Canu Aneirin.
Canu Taliesin
golygu- Prif: Taliesin a Canu Taliesin
Gweler hefyd
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Rachel Bromwich a R. Brinley Jones (gol.), Astudiaethau ar yr Hengerdd (Caerdydd, 1978)
- Ifor Williams (gol.), Canu Aneirin (Caerdydd, 1938; argraffiad newydd 1961)
- Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)