Brawd Herod
Drama ar ffurf anterliwt fodern yw Brawd Herod o waith Emlyn Gomer. Llwyfannwyd y gwaith am y tro cyntaf ym 1993 gan Theatr Rhiniog.
Dyddiad cynharaf | 1993 |
---|---|
Awdur | Emlyn Gomer |
Cyhoeddwr | heb ei chyhoeddi |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Pwnc | anterliwt |
Genre | Dramâu Cymraeg |
Ni chyhoeddwyd y ddrama hyd yma.
Disgrifiad byr
golygu"Croeso i westy'n rhywle rhwng Llandudno a'r ffin! Mae'n noswyl Nadolig ac mae'r anrhegion wedi'u prynu, goleuada'r goeden bron â gweithio a'r gwesty'n llawn ar wahan i un ystafell fechan. Ond mae yna bethau rhyfedd ar droed a dim ond ei dechrau hi ydi dybl-bwcio'r ystafell. Mae mwy nag un dieithryn eisiau aros y nos ... ."[1]
Cefndir
golyguDisgrifir y cynhyrchiad fel rhan o 'Brosiect Twm o'r Nant' yn rhaglen swyddogol y sioe.[1]
"Un o draddodiadau cryfaf y Theatr Gymraeg yw'r anterliwt, ac un sydd a'i wreiddiau'n ddyfn yng Nghlwyd, ac yn fwyaf arbennig yng ngwaith Twm O'r Nant. Dyma sy'n sail i'n sioe heno, er ein bod wedi tynnu ar sawl ffynhonnell arall hefyd yn y broses o'i chreu. Yn fwy na dim, 'roedden ni am ddod â sioe newydd, fyrlymus i chi'n arbennig ar gyfer Nadolig 1993. Fel y dywedodd Twm ei hun "Nid hanes Crist fel hen histori a wna'n bresennol fawr lês".[1]
Bu'r cyfarwyddwr Siân Summers yn cyd-weithio ar sawl cynhyrchiad theatr gyda'r dramodydd Emlyn Gomer i Gwmni Theatr Gwynedd a Hwyl a Fflag.
Cymeriadau
golygu- Cassnar
- Papsy
- Elliw
- Joseff
- Mair
- Prolog
- Gŵr Doeth
- a rhannau eraill.
Cynyrchiadau nodedig
golyguLlwyfannwyd yr anterliwt am y tro cyntaf yn Rhagfyr 1993 gan Theatr Rhiniog; cyfarwyddwr Siân Summers; cynllunydd Rhian Cemlyn; Rhys Gwyn Bevan; technegydd Lloyd Elis; prif saer Buckley Wyn Jones; gweinyddu Hwyl a Fflag; cast:
- Cassnar - Huw Garmon
- Papsy - Catherine Aran
- Elliw - Catherine Aran
- Joseff - Idris Morris Jones
- Mair - Carys Gwilym
- Prolog - Carys Gwilym
- Gŵr Doeth - Carys Gwilym
- a rhannau eraill.