Cwmni Theatr Gwynedd

cwmni theatr ym Mangor (1986–2008)

Cwmni theatr o Bangor oedd Cwmni Theatr Gwynedd a sefydlwyd ym 1986, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Gwynedd. Fel'i lleolwyd yn Theatr Gwynedd a fu ar agor ers 1974. Daeth y cwmni i ben pan gaeodd y Theatr yn 2008.

Cwmni Theatr Gwynedd
Enghraifft o'r canlynolcwmni theatr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dechreuwyd1986 Edit this on Wikidata
Daeth i ben2008 Edit this on Wikidata
PencadlysTheatr Gwynedd Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Cefndir byr

golygu

Ymgais at ddenu cynulleidfa Cwmni Theatr Cymru a ddaeth i ben ym 1984, oedd nôd sefydlu Cwmni Theatr Gwynedd, yn ôl y dramodydd a'r darlithydd drama, Roger Owen. Ychwanegodd bod y cwmni "...â'i fryd ar adfer y math o waith a gyflwynwyd cyn 1982, pan oedd y cwmni dan gyfarwyddyd Wilbert Lloyd Roberts".[1] Ond bu dau ddigwyddiad nodedig yn rhan o hanes creu'r cwmni; nid yn unig methdaliad Cwmni Theatr Cymru, ond penderfyniad Cyngor y Celfyddydau ym 1981 i dorri'r grant i theatrau rhanbarthol, nad oedd â chwmni theatr preswyl.

Prif nôd y cwmni o'r cychwyn oedd i gyflwyno y Clasuron Cymraeg a cafwyd cynyrchiadau llwyddianus o waith dramodwyr fel Saunders Lewis, John Gwilym Jones a Huw Lloyd Edwards. Aethpwyd ati hefyd i addasu nofelau clasurol Cymraeg gan awduron megis Daniel Owen a T Rowland Hughes, a throsiadau o Glasuron y Theatr Ryngwladol gan ddramodwyr fel Brecht, Chekhov, Ibsen a Molière. Cyflwynwyd dramâu newydd gan awduron megis Gareth F. Williams, William R. Lewis, Huw Roberts, Dewi Wyn Williams, Aled Jones Williams a Gwion Lynch.

"Math ar gwmni theatr cenedlaethol de facto" oedd y Cwmni, yn ôl Roger Owen; "Cwmni â'i wreiddiau yn ddwfn yn ei fro ei hun [...] cwmni a weithredai ar sail adnabod ei gynulleidfa'n fanwl. [...] Nid oedd fawr o wahaniaeth rhyngddo a theatrau rep rhanbarthol Lloegr, neu hyd yn oed y West End yn Llundain: roedd yn ganoledig, yn broffesiynol ac yn 'gyfreithlon'".[1]

Ar gyfartaledd, cynhyrchwyd tri cynhyrchiad y flwyddyn, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn teithio i ganolfannau led-led Cymru.[2] Oherwydd diffyg gofod yn Theatr Gwynedd ei hun, ac am nad oedd ystafelloedd ymarfer yno, lleolwyd storfeydd celfi ac ymarferion y cwmni, mewn uned ar stad ddiwydiannol ger Treborth, ar gyrion Bangor.

Yn y dyddiau cynnar, y panel ymgynghorol artistig oedd yn gyfrifol am y dewis, cyn penodi'r athrylith Graham Laker fel arweinydd artistig yn Haf 1990, nes iddo ymddiswyddo ym 1997.[3] Wedi ymadawiad Laker, gwahoddwyd sawl cyfarwyddwr gwâdd i lwyfannu cynyrchiadau gan gynnwys Ian Rowlands a Sian Summers, cyn penodi Sian yn arweinydd artistig llawn amser ym 1998. Penderfynodd Sian newid arlwy'r cwmni gan gefnu ar y Clasurol, a symud fwy fwy at ddramâu cyfoes, ysgafn a beiddgar.

Roedd y panel ymgynghorol artistig yn cynnwys actorion a dramodwyr megis J.O Roberts, John Ogwen, Grey Evans, William R. Lewis, Huw Roberts, Paul Griffiths ac Iola Ynyr.

Pan gafodd adeilad Theatr Gwynedd ei gau yn 2008, er mwyn ailddatblygu'r safle i wneud lle ar gyfer adeilad Pontio, daeth y cwmni'n ddigartref, a penderfynwyd dod â'r cwmni i ben.[4]

Cyfarwyddwyr artistig

golygu
  • Graham Laker (1990-1997) - cafodd ei benodi'n swyddogol fel arweinydd artistig yn Haf 1990, er ei fod wedi cyfarwyddo sawl cynhyrchiad i'w cwmni ers 1986.[3]
  • Sian Summers (1998-2002)
  • Ian Rowlands (2002-2008)

Rhai cynyrchiadau

golygu
 
Cynhyrchiad cyntaf Cwmni Theatr Gwynedd - O Law i Law 1986

1980au

golygu
 
Poster Leni 1990

1990au

golygu
 
Rhaglen cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Dim Ond Heno (1991)
  • 1993
 
Flyer y ddrama Golff gan Cwmni Theatr Gwynedd
  • 1996
    • Jeli Bebis - Miriam Llewelyn - drama fuddugol cystadleuaeth Tlws y Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru
  • 1997
    • Yr Aduniad - Delyth Jones
    • Y Bandit, Y Barwn A'r Boi Bananas - Emlyn Gomer ac Arwel Roberts.
    • Tua'r Terfyn - Iwan Edgar

2000au

golygu
  • 2001
    • Dynas Ddela' Leenane - cyfieithiad o ddrama Martin McDonagh; cyfarwyddwr Ian Rowlands

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Owen, Roger (2003). Ar Wasgar. Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 73. ISBN 0 7083 1793 6.
  2. "Cwmni Theatr Gwynedd". Theatre in Wales. Cyrchwyd 15 Mawrth 2024.
  3. 3.0 3.1 Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o Leni 1990.
  4. "Cau llen ar gwmni theatr". BBC Cymru. 15 Gorffennaf 2008. Cyrchwyd 15 Mawrth 2024.
  5. "Going freelance and Theatr Gwynedd 1985 -2010". Martin Morley: a life in theatre and tv design (yn Saesneg). 2018-09-17. Cyrchwyd 2024-08-23.
  6. Rhaglen Plas Dafydd Cwmni Theatr Gwynedd.
  7. Rhaglen Siôn a Siân Cwmni Theatr Gwynedd.
  8. Rhaglen Enoc Huws Cwmni Theatr Gwynedd.
  9. Rhaglen Excelsior Cwmni Theatr Gwynedd 1992.
  10. Rhaglen Y Werin Wydr Cwmni Theatr Gwynedd 1992.
  11. Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o Y Gosb Ddiddial.
  12. Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o Golff.
  13. Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o Chwith Meddwl.
  14. Rhaglen Awê Bryncoch! Cwmni Theatr Gwynedd.
  15. Rhaglen Pwy Sy'n Sâl? Cwmni Theatr Gwynedd.
  16. Rhaglen Cwm Glo - Cwmni Theatr Gwynedd 1995.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.