Emlyn Gomer
Actor, llenor a dramodydd o Gymro yw Emlyn Gomer neu Emlyn Gomer Roberts neu Emyr Roberts (ganwyd ).
Emlyn Gomer | |
---|---|
Ganwyd | Emlyn Gomer Roberts Dolgellau |
Llysenw/au | Emlyn Roberts neu Em Gom |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, llenor a cherddor |
Priod | Manon Elis |
Bu'n weithgar ar lwyfannau a sgriniau Cymru ers y 1980au. Bu'n portreadu nifer o gymeriadau mewn cyfresi poblogaidd S4C fel Rownd a Rownd, Pobol y Cwm, Amdani! a'r ffilm Hedd Wyn.
Mae'n aelod o'r grŵp gwerin Gwerinos[1] ac yn awdur a sgriptiwr Cymraeg. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf Y Ddraig Goch yn 2006. Cafodd nifer o'i ganeuon eu gosod ar restr fer Cân i Gymru dros y blynyddoedd.[2]
Mae'n briod â'r actores Manon Elis ac yn byw yng Nghaernarfon efo'u plant.
Cefndir
golyguGyrfa
golyguTheatr
golygu- Llanast! - Theatr Bara Caws
- Yr Argae
- Y Barwn, Y Bandit a'r Boi Bananas - Cwmni Theatr Gwynedd - dramodydd ac actor
- Y Sipsiwn
- Nid Aur yw Popeth Melyn
- Comin Jac (2007) Cwmni Theatr Gwynedd - dramodydd
- Dim Byd Ynni (1992) Hwyl a Fflag - dramodydd
Teledu a ffilm
golygu- Hedd Wyn (1992)
- Hafod Haidd (1998) [3]
- Y Ferch Dawel
- Y Mynydd Grug
- The Mystery Files
- Rownd a Rownd
- Amdani!
- Pobol y Cwm
- Y Parc
- Mam Del
- Talcen Caled
- Dragons
- Lloyd of the Flies [4]
Radio
golygui BBC Radio Cymru oni nodir yn wahanol [5]
- Dan y Don (2013)
- Paid â Deud
- Fflamau
- Onestrwydd
- Torri Calon 2
- Gwe Pry Cop
- Y Ferch yn y Peiriant
- Aros Mae
- Y Cwis
- Eileen
- Rhydeglwys
Gwaith Ysgrifennedig
golyguDramâu
golygu- Dim Byd Ynni (1992) (heb ei chyhoeddi)
- Brawd Herod (1993) (anterliwt heb ei chyhoeddi)
- Y Barwn, Y Bandit a'r Boi Bananas (. ) (heb ei chyhoeddi)
- Comin Jac (2007) (heb ei chyhoeddi)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwerinos lineup, biography". Last.fm (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-23.
- ↑ "Press | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2024-09-23.
- ↑ "Emlyn Gomer | Writer, Actor". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-23.
- ↑ "Emlyn Gomer". The Dubbing Database (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-23.
- ↑ "Emlyn Gomer". www.management2000.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-23.