Brean Down
Penrhyn yn Ardal Sedgemoor, Gwlad yr Haf, rhwng Weston-super-Mare a Burnham-on-Sea, yw Brean Down.[1] Mae'n ymestyn filltir a hanner i mewn i Fôr Hafren ac yn sefyll 100 medr / 320 troedfedd uwchben y môr ar ei frig. Mae ef wedi'i wneuthur o galchfaen carbonifferaidd. Yn ddaearegol, mae'n rhan o'r Bryniau Mendip sy'n rhedeg ar draws gogledd canol Gwlad yr Haf, fel y mae ynysoedd y Môr Hafren, Steep Holm ac Ynys Echni. Mae'n gartref i nifer o blanhigion prin gan gynnwys rhosynnau y garreg gwynion (Helianthemum apenninum), y gorfrwynen (Carex humilis), y peneuraid (Ranunculus auricomus) a brigwellt Gwlad yr Haf (Koeleria vallesiana). Trigolion eraill y penrhyn yw cwningod, draenogod, llygod y maes, llygod y gwair a chwistlod. Mae adar yn cynnwys ehedyddion, corhedyddion y waun, llinosod a thitẅod tomos gleision.
Math | penrhyn, bryn |
---|---|
Ardal weinyddol | Brean |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwlad yr Haf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Uwch y môr | 97 metr |
Cyfesurynnau | 51.3256°N 3.029°W |
Cod OS | ST2849159008 |
Amlygrwydd | 91 metr |
Cyfnod daearegol | Carbonifferaidd |
Cadwyn fynydd | Bryniau Mendip |
Deunydd | calchfaen |
Adeiladwyd caer ar derfyn y penrhyn rhwng 1862 a 1870 (Palmerston Fort) i wrthsefyll grym llynges Ffrainc. Roedd yn rhan o gyfres o geyrydd o gwmpas y Môr Hafren gyda cheyrydd eraill ar Benrhyn Larnog, Ynys Echni a Steep Holm. Ym 1900, lladdwyd milwr yn y caer gan ffrwydrad enfawr. Perodd y ffrwydrad ddifrod sylweddol i'r caer, a bu rhaid i'r fyddin gefnu ar y safle yn fuan wedyn. Cafodd ei ailarfogi am gyfnod yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ei berchennog heddiw yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac fe'i gwarchodir fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 9 Gorffennaf 2019
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Tudalennau Burnham on sea Archifwyd 2008-05-11 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Brean Down Archifwyd 2006-07-16 yn y Peiriant Wayback ar wefan Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol