Bregus (cyfres deledu)

Cyfres drama deledu Cymraeg

Rhaglen ddrama seicolegol yw Bregus. Crëwyd Bregus gan Mared Swain a Ffion Williams yn 2018 ac fe'i gynhyrchwyd gan Fiction Factory. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar fywyd Ellie (Hannah Daniel), sydd ar yr wyneb, yn ymddangos yn hollol berffaith.[1]

Bregus
Genre Drama
Serennu Hannah Daniel
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 1
Nifer penodau 6 (Rhestr Penodau)
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 60 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Fiction Factory
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 1080i (16:9 HDTV)
Darllediad gwreiddiol 21 Mawrth 2021 (2021-03-21)
Dolenni allanol
Proffil IMDb

Mae 6 pennod yn y gyfres gyntaf a ddarlledwyd yn 2021. Fe'i darlledwyd yn y slot ddrama arferol am 9pm ar S4C.[2]

Penodau

golygu
# Teitl Cyfarwyddwr Awdur Darllediad cyntaf Gwylwyr S4C [3]
1"Pennod 1"Ed ThomasFfion Williams21 Mawrth 2021 (2021-03-21)o dan 24,000
Mae gan Ellie Bateman, yn ôl pob golwg, y bywyd perffaith - gyrfa llwyddiannus, gwr cariadus, merch fach annwyl yn ogystal â grwp agos o ffrindiau sy'n meddwl y byd iddi. Pan fydd drasedi annisgwyl yn dryllio eu bywydau i ddarnau, mae Ellie'n gwbod taw yr unig ffordd i oroesi yw i ddianc. A ddaw hi byth nôl-neu a wnaiff ddewis colli ei hun mewn storm berffaith sy allan o'i reolaeth,
2"Pennod 2"Ed ThomasManon Eames & Mared Swain28 Mawrth 2021 (2021-03-28)o dan 28,000
Mae Ellie yn darganfod ei hun ymhell o adre ac ymhellach fyth oddi wrth y bywyd a adnabyddai ddoe. Yng ngolau dydd, mae'n gwybod bod yn rhaid iddi fynd nôl - ond sut y gall hi wynebu'r bobol mae'n eu caru ar ôl yr hyn sydd wedi digwydd. "Anghofio yw'r unig ffordd" ond dyw anghofio ddim yn hawdd pan fo euogrwydd a cywilydd yn eich poenydio i'r craidd.
3"Pennod 3"Ed ThomasSian Naiomi & Ed Thomas4 Ebrill 2021 (2021-04-04)o dan 26,000
Mewn aflonyddwch mae Ellie yn gorfodi ei hun i dderbyn y 'Normal Newydd' gan obeithio bydd ei gwaith fel llawfeddyg yn tynnu ei sylw yn ddigon hir i oroesi diwrnod arall. Ond, fel addict, mae'n cael ei thynnu gan berygl a swyn yr affêr. Wrth i'r bobl agosaf ati ddechrau gweld y craciau, fe wyr Ellie ei bod hi'n chwarae gêm beryglus, ond mae'n gêm sy'n anodd iawn iddi osgoi.
4"Pennod 4"Mared SwainCatrin Clarke11 Ebrill 2021 (2021-04-11)o dan 26,000
Dechreua Ellie weld yr effaith mae ei bywyd cudd yn ei gael ar ei theulu. Synhwyra bod Menna yn teimlo'r newid ynddi. Gyda'i heuogrwydd fel bom ar fin ffrwydro, gwnaiff Ellie ei gorau glas i unioni pethau. Ond cael ei dal allan yw'r lleiaf o'i gofidiau wrth i feddyliau ymwthiol darfu ar ei meddwl - gweledigaethau sy'n aflonyddu a gwyrdroi realiti ac yn peri iddi gwestiynu ei hiawn phwyll.
5"Pennod 5"Andy NewberyMared Swain & Ed Thomas & Ffion Williams18 Ebrill 2021 (2021-04-18)o dan 24,000
Ar ôl rhoi stop ar yr affêr, mae Ellie'n gobeithio symud ymlaen a dechrau trwsio rhai o'r perthnasoedd yn ei bywyd. Bellach ar absenoldeb gorfodol o'r gwaith, mae ganddi amser i fyfyrio, wynebu ei phroblemau a gwella eto. Ond ymddengys nad yw'r berthynas eisiau diflannu mor hawdd â hynny - nid yw Richard yn mynd i unrhyw le heb frwydr. Ar ben hynny, mae Mart eisoes yn gwybod am 'y dyn arall' - a fydd o'n mynd at Ellie am hyn, neu a fydd y dieithryn yn creu twrw cyn iddo gael cyfle.
6"Pennod 6"Andy NewberyCatrin Clarke25 Ebrill 2021 (2021-04-25)o dan 18,000
Ar ôl cyffesu i'w haffêr gyda Richard a gadael Mart a'r cartref teuluol, mae Ellie yn derbyn tecst oddi wrth rhif anhysbys - llun ohoni hi ac Ems yn cusanu. Fe wyr nad yw'r gêm ar ben o bell ffordd a bydd yn rhaid iddi frwydro'n arw cyn iddi golli popeth - ond beth mwy y mae Richard eisiau ganddi?

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Drama afaelgar yn dechrau ar S4C. lleol.cymru (11 Mawrth 2021). Adalwyd ar 21 Mawrth 2021.
  2.  Bregus: Drama seicolegol newydd ar S4C ym mis Mawrth. S4C (4 Mawrth 2021). Adalwyd ar 21 Mawrth 2021.
  3. Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.

Dolenni allanol

golygu