Brenin Momo
Mae'r Brenin Momo neu'r Brenin Momos neu'r Brenin Momus (Portiwgaleg: Rei Momo; Sbaeneg: Rey Momo) yn cael ei ystyried yn frenin y Carnifal mewn nifer o ddathliadau yn America Ladin, yn bennaf ym Mrasil a Colombia.
Mae ei ymddangosiad yn arwydd cychwyn y dathliadau Carnifal. Mae gan bob carnifal ei Brenin Momo ei hun, sydd yn aml yn cael ei roi yn symbolaidd i'r ddinas. Yn draddodiadol, dyn tal, tew, sy'n cael ei ddewis i gyflawni'r rôl oherwydd bod y Brenin Momo gwreiddiol yn ddyn cydnerth.
Tarddiad
golyguMae'r enw Brenin Momus yn deillio o fytholeg y Groegiaid a chwedl y duw Groegaidd Momus (μῶμος), duw dychan.[1]
Y Brenin Momo yn Santos
golyguWaldemar Esteves da Cunha (ganwyd 1920 - bu farw 2013) [2] oedd y Brenin Momo yn Santos, 1950-1956 a 1958-1990, a pharhaodd yn y swydd tan oedd yn 92 oed, pan ymddeolodd; ef oedd y Momo hynaf ym Mrasil.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rio Carnival: World's biggest extravaganza (The Herald -Simbabwe-, 11 March 2011)
- ↑ Novo Milênio: Tempo de Carnaval (5-a)
- ↑ Novo Milênio: Tempo de Carnaval (5-b)