Brethyn Cartref

llyfr (gwaith)

Cyfrol o straeon byrion gan T. Gwynn Jones yw Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig. Cyhoeddwyd y gyfrol yng Nghaernarfon, gan Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig yn Swyddfa Cymru, yn 1913.

Brethyn Cartref
Clawr blaen yr argraffiad gwreiddiol
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol, gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurT. Gwynn Jones
CyhoeddwrCwmni y Cyhoeddwyr Cymreig
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1913 Edit this on Wikidata
GenreStraeon byrion
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Straeon digon cartrefol ydynt ar y golwg cyntaf, wedi'u hadrodd mewn iaith naturiol, ond ceir ynddynt gryn dipyn o smaldod ac eironi yn ogystal. Cyfrol i ddiddanu ydoedd, ac mae'r awdur yn ei thaflu i'r cyhoedd, fel petai, fel rhywbeth digon cyffredin a allai fod o fudd neu ddiddordeb i rywun, efallai.

Mae rhagair T. Gwynn yn ffug-ddiymhongar:

Feallai nad oes nemor gamp ar y torri a'r gwnïo, ond am y brethyn, y mae hwnnw cystal â dim sydd ar y farchnad. Gallaf roddi fy ngair trosto, canys nid myfi a'i gwnaeth, ond Natur. Am hynny, pe bae'r grefft cystal â'r deunydd, fe dalai'r Brethyn at hirddydd haf a hirnos gaeaf. Fel y mae, hwyrach y gwasanaetha ambell awr na bo'i amgenach wrth law, ryw ran o'r pedwar amser.[1]

Ceir ynddi bymtheg stori fer, rhai ononynt yn fwy tebyg i frasluniau na straeon, i gyd bron wedi'u lleoli mewn pentrefi bach neu gefn gwlad. Maent yn cynnwys "Mab y Môr", "Ysmaldod y Sais Mawr", "Y Bardd", "Ci Dafydd Tomos" a "Ffrae Lecsiwn Llangrymbo". Erys rhai ohonynt yn eithaf darllenadwy heddiw.

Y Straeon golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Brethyn Cartref (1913), rhagair.

Dolenni allanol golygu