Brian David Josephson
Cymro ac enillydd Gwobr Nobel mewn ffiseg
Ffisegydd Cymreig yw'r Athro Brian David Josephson (ganwyd 4 Ionawr 1940), sydd yn arbenigo mewn tra-ddargludedd a hefyd yn ddadleuwr amlwg dros y posibilrwydd o fodolaeth ffenomena paranormal. Ganwyd ef yng Nghaerdydd lle y mynychodd Ysgol Uwchradd y Bechgyn Caerdydd cyn mynd i Goleg y Drindod, Caergrawnt.
Brian David Josephson | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
4 Ionawr 1940 ![]() Caerdydd ![]() |
Man preswyl |
y Deyrnas Unedig ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth |
ffisegydd, academydd ![]() |
Cyflogwr | |
Gwobr/au |
Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Gwobr Ffiseg Nobel, Gwobr Elliott Cresson, Gwobr Holweck, Medal Hughes, Gwobr Faraday, Gwobr Goffa Fritz London, Cymrawd y Sefydliad Ffiseg, Guthrie Medal and Prize, Faraday Medal and Prize ![]() |
Gwefan |
http://www.tcm.phy.cam.ac.uk/~bdj10/ ![]() |
Yng Nghaergrawnt, pan oedd yn 22 oed, darganfu Effaith Josephson, sef y ffenomenon o lif cerynt ar draws dau dra-ddargludwr a wahenir gan ynysydd tenau iawn. O ganlyniad i'r darganfyddiad, enillodd Wobr Ffiseg Nobel yn 1973 ar y cyd â Leo Esaki ac Ivar Giaever.
Ar hyn o bryd, mae'n athro ym Mhrifysgol Caergrawnt lle mae'n bennaeth ar y prosiect uniad meddwl a mater o fewn grŵp ymchwil Theori Mater Cyddwysedig.
Dolenni AllanolGolygu
- (Saesneg) Tudalen Gartref Brian Josephson ar wefan Prifysgol Caergrawnt
- (Saesneg) Gwobr Ffiseg Nobel 1973