Ysgol Uwchradd Caerdydd

Ysgol gyfun cyfrwng Saesneg yn ardal Cyncoed/Lakeside, Caerdydd yw Ysgol Uwchradd Caerdydd (Saesneg: Cardiff High School). Y prifathro presennol ydy Mr Mike M Griffiths.[1]

Ysgol Uwchradd Caerdydd
Cardiff High School
Arwyddair Tua'r Goleuni
Sefydlwyd 1895
(1970 fel ysgol gyfun)
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Mr Mike M Griffiths
Lleoliad Ffordd Llandennis, Cyncoed, Caerdydd, Cymru, CF23 6WG
AALl Cyngor Dinas Caerdydd
Disgyblion tua 1500
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Lliwiau Coch a du
Gwefan cardiffhigh.cardiff.sch.uk

Er ir ysgol, ar ei ffurf presennol, ond gael ei sefydlu ym 1970, mae ei hanes yn ymestyn yn bellach na hynny, gyda hanes y tair ysgol a unwyd i'w chreu.

Ysgolion Uwchradd Dinas Caerdydd

golygu

Agorwyd Ysgol Uwchradd Dinas Caerdydd ar gyfer Merched (Saesneg: City of Cardiff High School for Girls) ym mis Ionawr 1895, ar y Parade, Caerdydd[2], ac agorwyd Ysgol Uwchradd Dinas Caerdydd ar gyfer Bechgyn (Saesneg: City of Cardiff High School for Boys) ym mis Tachwedd 1898 ar ffordd Casnewydd, Caerdydd[3]. Sefydlwyd y ddwy ysgol yn dilyn termau Deddf Addysg Ganolradd Cymreig 1889 ac felly, gelwyd yn wreiddiol yn Ysgol Ganolradd Caerdydd ar gyfer Merched ac Ysgol Ganolradd Caerdydd ar gyfer Bechgyn (Saesneg: Cardiff Intermediate School for Girls a Cardiff Intermediate School for Boys). Ers 1905, cyflenwyd addysg uwchradd yng Nghaerdydd trwy system o ysgolion uwchradd Trefol yn bennaf,[4]) a oedd wedi eu trefnu o dan Ddeddf Addysg 1902.[3] Er i'r ddau ysgol ganolradd gael eu ail-frandio'n ysgolion uwchradd ym 1911, dioddefodd yr ysgolion i gymharu â'r ysgolion trefol oherwydd eu arholiadau mynediad, ac yn ddiweddarach, eu taliadau, yn enwedig ar ôl i'r ysgolion trefol gael gwared ar daliadau ym 1924. Roedd y nifer o ddisgyblion o gefndir dosbarth gweithiol yn gyfyngedig, gan fod y rhieni yn cael eu rhwystro gan y taliadau, a oedd ond yn cael eu cefnogi'n rannol gan ysgoloriaethau a bwrsarïau, ac yn ddiweddarach gan drefn a chwricwlwm yr Ysgol Ramadeg[3] pan greodd y Llywodraeth Brydeinig Deddf Addysg Butler ym 1944 gan sefydlu'r System Tridarn a ddosbarthodd yr ysgolion i dri categori, Ysgol Rramadeg, Ysgolion Technegol ac Ysgolion Uwchradd Modern. Ystyriwyd ysgolion ramadeg fel lle addysg ar gyfer y rhai a oedd yn ddawnus yn academaidd (fel y barnwyd gan yr arholiad eleven plus), ac felly dewiswyd Ysgolion Uwchradd Caerdydd i droi'n ysgolion ramadeg (yn anffurfiol, defnyddiwyd y term Ysgol Ramadeg Caerdydd; Saesneg: Cardiff Grammar School). Roedd ysgol y bechgyn wedi dioddef o'r cychwyn oherwydd ei safle cyfyngedig ar Ffordd Casnewydd. Cafwyd afael ar safle newydd o fewn tair blynedd, ar gornel Ffordd Corbett Road a Park Place yn 1901, ond fe arhosodd yr ysgol ar ei safle gwreiddiol yn y pen draw, ac agorwyd ysgol newydd yn 1910, gyda ymestyniadau pellach ym 1931-32.[3]

Ysgol Uwchradd Modern Tŷ Celyn

golygu

Crewyd Ysgol Uwchradd Modern Tŷ Celyn (Saesneg: Ty Celyn Secondary Modern) fel canlyniad o Ddeddf Addysg Butler yn 1944, gan gyflenwi'r angen am ysgol Uwchradd Modern, yn ôl System Tridarn y ddeddf (cyflewnyd elfen ysgol ramadeg y ddeddf gan Ysgolion Uwchradd Dinas Caerdydd).

Ffurfio Ysgol Uwchradd Caerdydd gan uniad

golygu

Sefydlwyd Ysgol Uwchradd Caerdydd ym 1970 fel ysgol gyfun gymysg i blant 11-18 oed, yn dilyn uniad y ddwy ysgol ramadeg un-rhyw ac Ysgol Uwchradd Modern Tŷ Celyn. Unwyd yr ysgol ar un safle ym 1973. Gwerthwyd hen safle'r ysgol ar Ffordd Casnewydd yn ddiweddarach er mwyn ariannu ymestyniad Ysgol Uwchradd y Willows yn Nhremorfa.

Cyn-ddisgyblion nodedig

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  School Details: Cardiff High School. Cyngor Caerdydd.
  2. Archives Network Wales - Glamorgan Record Office - City of Cardiff High School for Girls records[dolen farw]
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 "Archives Network Wales - Glamorgan Record Office - City of Cardiff High School for Boys records". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-05. Cyrchwyd 2008-11-10.
  4. Municipal Secondary Schools included Howard Gardens that had been established in 1898, Canton established in 1907 and Cathays

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.