Brian David Josephson

Cymro ac enillydd Gwobr Nobel mewn ffiseg
(Ailgyfeiriad o Brian Josephson)

Ffisegydd Cymreig yw'r Athro Brian David Josephson (ganwyd 4 Ionawr 1940), sydd yn arbenigo mewn tra-ddargludedd a hefyd yn ddadleuwr amlwg dros y posibilrwydd o fodolaeth ffenomena paranormal. Ganwyd ef yng Nghaerdydd lle y mynychodd Ysgol Uwchradd y Bechgyn Caerdydd cyn mynd i Goleg y Drindod, Caergrawnt.

Brian David Josephson
Ganwyd4 Ionawr 1940 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Man preswyly Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Brian Pippard Edit this on Wikidata
Galwedigaethffisegydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Missouri University of Science and Technology
  • Prifysgol Illinois yn Urbana–Champaign Edit this on Wikidata
Adnabyddus amJosephson effect Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Gwobr Ffiseg Nobel, Gwobr Elliott Cresson, Gwobr Holweck, Medal Hughes, Gwobr Faraday, Gwobr Goffa Fritz London, Cymrawd y Sefydliad Ffiseg, Guthrie Medal and Prize, Faraday Medal and Prize Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.tcm.phy.cam.ac.uk/~bdj10/ Edit this on Wikidata

Yng Nghaergrawnt, pan oedd yn 22 oed, darganfu Effaith Josephson, sef y ffenomenon o lif cerynt ar draws dau dra-ddargludwr a wahenir gan ynysydd tenau iawn. O ganlyniad i'r darganfyddiad, enillodd Wobr Ffiseg Nobel yn 1973 ar y cyd â Leo Esaki ac Ivar Giaever.

Ar hyn o bryd, mae'n athro ym Mhrifysgol Caergrawnt lle mae'n bennaeth ar y prosiect uniad meddwl a mater o fewn grŵp ymchwil Theori Mater Cyddwysedig.

Dolenni Allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.