Brigwrn Capel Garmon
Brigwrn Celtaidd o Oes yr Haearn yw Brigwrn Capel Garmon (neu Frigwn Capel Garmon). Cafodd ei ddarganfod yn 1852 ar dir fferm "Carreg Goedog" ger Capel Garmon yn Nyffryn Conwy. Mae ar gadw yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd. Tybir ei fod yn dyddio o tua 50CC-OC50.[1]
Brigwrn Capel Garmon |
Disgrifiad
golyguYn Oes yr Haearn a'r cyfnod hanesyddol cynnar, roedd brigyrnau (neu 'frigynau')[2] yn cael eu gosod, fel pâr gan amlaf, ar y naill ochr a'r llall i aelwyd ganolog mewn tŷ crwn ("Cytiau Gwyddelod").[1]
Pan gafodd y brigwrn hwn ei ddarganfod gan lafurwr fferm lleol yn 1852, roedd ar ei ochr, yn ddwfn yn y mawn, gyda charreg fawr wedi'i rhoi ar y naill ben a'r llall iddo. Mae'n debyg mai pwll oedd yno yn wreiddiol, a lenwyd â mawn gyda'r canrifoedd.[3] Mae'r ffordd y cafodd ei osod yn ofalus fel hyn yn awgrymu ei fod yn offrwm i'r duwiau Celtaidd, efallai, yn enwedig gan fod sawl offrwm gan y Celtiaid i bylloedd a llynnoedd wedi ei darganfod a bod safleoedd dŵr yn sanctaidd i'r Celtiaid cynnar ac i bobl hynafol eraill.[4] Mae safon gwaith haearn y gof a'i luniodd yn uchel a dim ond rhywun o statws byddai'n berchen ar waith fel hyn; roedd haearn, a weithiwyd am y tro cyntaf yng Nghymru tua 750CC, yn gymharol brin a drud yn Oes yr Haearn.[1]
Ceir pen a gwddw anifail ar y naill ben a'r llall i'r brigwrn. Mae'n edrych yn debyg i darw neu geffyl ond mae'n bosibl mai creadur chwedlonol ydyw yn hytrach nag anifail cyffredin.[1]
Mae'r brigwrn, sydd o waith haearn gyr (wrought-iron), yn mesur 75 cm o uchder a 1068 cm ar draws ar y top a 865 ar draws ar y gwaelod.[3]
Llyfryddiaeth
golygu- H.N. Savory, Guide Catalogue of the Early Iron Age Collections (Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1976), tud. 62. Disgrifiad technegol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Brigwrn Capel Garmon[dolen farw].
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru ar-lein; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ 3.0 3.1 H.N. Savory, Guide Catalogue of the Early Iron Age Collections (Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1976).
- ↑ Gwyn Thomas, Duwiau'r Celtiaid (Gwasg Carreg Gwalch, 1992.