Buwch

(Ailgyfeiriad oddi wrth Tarw)
Gwartheg
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Bovidae
Is-deulu: Bovinae
Genws: Bos
Rhywogaeth: B. taurus
Enw deuenwol
Bos taurus
Linnaeus, 1758
Tarw tua 1885; rhywle ym Mhowys o bosibl.

Anifail dof yw buwch (lluosog buchod). Maent yn cael eu magu am eu llefrith a'u cig. Tarw yw enw'r gwryw, a llo yw'r epil. Gelwir anifail gwryw sydd wedi ei ysbaddu yn fustach. Mae'r enw lluosog gwartheg yn cwmpasu'r cwbl, yn wryw, benyw ac epil a'r term am dorf ydy 'buches o wartheg'.

Hanes y fuwchGolygu

Defnyddid gwartheg i aredig cyn gynhared â'r Oes Efydd ac erbyn yr Oes Haearn ceid amryw o fathau, yn cynnwys y fuwch Geltaidd fechan fyrgorn; o'r hon y tarddodd y rhan fwyaf o'r bridiau llaethog modern. Yng Nghyfraith Hywel disgrifir gweddoedd o 2, 4, 6 neu 8 ychen yn tynnu aradr. Roedd gwartheg yn unedau ariannol a thardda'r gair 'cyfalaf' o 'alaf' sef y gair am yrr o wartheg.

Tan y 16 - 17g symudid gwartheg yn dymhorol rhwng hafod a hendre ynghyd â geifr ac ychydig ddefaid, ond erbyn y 18g porid y mynydd-dir bellach gan ddefaid yn unig. Cynyddodd y farchnad i wartheg Cymreig yn Lloegr yn sylweddol wrth i boblogaeth y dinasoedd dyfu'n gyflym trwy'r 18 - 19g. Fe'u cerddwyd gan borthmyn i ffeiriau Canolbarth a De-ddwyrain Lloegr.

Ceid amryw o fridiau Cymreig, e.e. gwartheg Morgannwg, Maldwyn, Môn, Penfro a llawer o amrywiaethau lleol. Hefyd gwartheg gwynion hanner gwylltion Dinefwr a'r Faenol. O'r 1850au, trosglwyddid anifeiliaid yn bennaf ar y rheilffyrdd a newidiodd y galw am anifeiliaid bychan caled i rai mwy a gwell eu cyflwr. Yn raddol, disodlwyd y ffeiriau pentref gan y martiau - a leolid ar fin y rheilffyrdd.

Sefydlwyd Cofrestrau Pedigri i wartheg Penfro yn 1874, a Môn yn 1883, a'u cyfuno yn 1905 i ffurfio Bucheslyfr y Gwartheg Duon Cymreig, sy'n frîd rhyngwladol-bwysig erbyn hyn. Diflannodd gwartheg Morgannwg a Maldwyn ddiwedd y 19g. Trwy'r 20g gwellhaodd ansawdd a chynnyrch bridiau yn sylweddol pan sefydlwyd Cymdeithasau Teirw o 1914, y Bwrdd Marchnata Llaeth yn 1933, ffrwythloni artiffisial o'r 1950au a throsglwyddo embryonau o'r 1990au.

Yn y 1950au gwartheg duon Cymreig gynhyrchai'r rhan fwyaf o'r llaeth ar yr ucheldir a buchesi Byrgorn neu Ayrshire ar dir gwaelod. Cynhyrchid cig yn bennaf trwy groesi'r gwartheg â theirw Henffordd. Erbyn y 1960au roedd buchesi bychain y beudy wedi eu newid am fuchesi mwy o wartheg Friesian-Holstein mewn parlyrau godro, i'w croesi â theirw cyfandirol am gig. Aeth ffermydd yr ucheldir i arbenigo mewn cig eidion a defaid a disodlwyd y tarw Henffordd i groesi gan y Charolais a'r Limousin yn y 1970au - 80au.

YchGolygu

Arferai gwartheg (gwrywaidd gan amlaf) dynnu cerbydau neu erydr ar ffermydd, er bod yr arfer hwn bellach wedi dod i ben yng Nghymru a gwledydd datblygedig eraill yn sgil dyfodiad y tractor. Gelwir bustach sydd wedi ei fagu at waith tynnu yn ych. Fe ddefnyddir ychen i aredig, i dynnu trol, cert, coed neu lwyth arall ac i weithio pwmp dŵr i ddyfrhau. Yr enw torfol yw 'gyrr o wartheg'.

Gan amlaf defnyddir dau ych i weithio ar y cyd a rhoddid iau ar eu gwarrau fel bod y gwaith tynnu yn cael ei rannu ar draws eu hysgwyddau. Dewisir ychen â chyrn ganddynt at y gwaith fel bod modd defnyddio’r cyrn i gadw’r iau yn ei le pan fydd yr ychen yn arafu, yn cerdded am yn ôl neu yn gostwng eu pennau.

 
Map o'r ymadroddiadon a ddefnyddir i ddisgrifio ysfa buwch i genhedlu.

Cynhyrchu modernGolygu

Llaeth - Caiff buchod eu godro â pheiriant mewn parlwr godro ddwywaith y dydd a chedwir y llaeth i'w gasglu gan dancer - lori o hufenfa leol yn ddyddiol neu bob yn eilddydd. Yn y parlwr herringbôn arferol gellir godro oddeutu 20 o wartheg ar unwaith a thros 100 mewn awr. Cyrhaedda cynnyrch llaeth uchafbwynt o tua 40 litr y fuwch y dydd am tua deufis, cyn lleihau'n raddol nes i'r fuwch gael ei hesbio wedi 10 mis, iddi gryfhau cyn dechrau llaetha eto ar enedigaeth ei llo nesa.

Yn y gaeaf cedwir buchod llaeth dan do a'u bwydo â gwair, silwair a dwysfwyd. Dros yr haf byddant yn pori allan a derbyn dwysfwyd wrth odro. Ond erbyn yr 20g ceid ffermydd yng Nghymru lle cedwir y gwartheg dan do drwy gydol y flwyddyn, heb i'r fuwch weld blewyn o laswellt Er mwyn cael llo bob blwyddyn i laetha defnyddir tarw potel o frîd pur neu o frîd cig. Maint y buchesi llaeth yw 60 - 80, gyda dros 80% yn Friesian-Holstein a'r gweddill yn Ayrshire, Jersey a Guernsey.

Cig - O'r 4 - 6 llo gynhyrcha buwch laeth dim ond un, o frîd pur, fydd ei angen i gymryd lle'r fuwch. Felly gall y gweddill fod yn groesiadau â bridiau eraill ar gyfer eu cig. Daw y rhan fwyaf o'r cig a fwytawn felly o'r fuches laeth.

Erbyn y 21g, y bridiau cig pwysicaf yng Nghymru oedd y Du Cymreig, Henffordd, Byrgorn, Aberdeen Angus a'r Charolais, Limousin a Simental cyfandirol. Ceir cig eidion o'r ansawdd orau o'r bridiau cig pur, a cheir sawl dull o'i gynhyrchu. Ar ucheldir Cymru cedwir yr anifeiliaid dan do dros y gaeaf fel arfer, a'u bwydo ar wair neu silwair. Pori allan wnânt dros yr haf a bydd y bustych a'r heffrod yn barod i'w lladd pan fyddant bron yn 300 kg.

CymruGolygu

Gofyn tarw ac ymadroddion eraillGolygu

Drwy Ogledd Cymru, hyd at Machynlleth, a ffin afon Dyfi, 'gofyn tarw' yw'r ymadrodd mwyaf cyffredin a cheir ymadrodd ddigon tebyg ym Morgannwg: 'mofyn tarw'. Yng Ngheredigion dywedir fod y fuwch yn 'wasod'.[1] Sonia Cyfraith Hywel Dda (14g) am "weithred tarw gra geisso gwartheg gwasawt o galan Mei hyd galan gaeaf." Mae dwy ardal ar wahân yn defnyddio'r un term, 'eisiau tarw', sef yr hen Sir Fflint a chanol Powys.

Ym Morgannwg hefyd arferid defnyddio: 'yn erlid' ac 'yn ysu'.[2]

Ar Ynys Môn, ar whân i'r arfordir dwyreiniol, defnyddir: 'tryfenydd', 'tyrfenydd' neu 'derefnydd' am fuwch yn ei gwres. Cofnodir hyn gyntaf yn Llyfr Iorwerth yn y 13g: "Ny deleyr dale y teyru o hanner haf hyt Aust nac ar yt nac ar wellt, canys en er amser hunnu y byd teruenyd e guarthec prouadwy..." Dywedir ‘Mae’r terfenydd arni’ a defnyddir y termau hyn mewn mannau yn Arfon.

NodweddionGolygu

AnatomegGolygu

 
Sgerbwd buwch ddomestig

Mae gwartheg yn garnolyn bedeircoes, sy'n famal. Mae gan y mwyafrif o fridiau gyrn, a all fod mor fawr â'r chyrn y Texas Longhorn neu'n fach fel y ffug-gorn a elwir yn "sgwr". Drwy ddethol genetig gofalus, ceir hefyd gwartheg di-gyrn, sy'n olygfa eitha cyffredin.

 
Model anatomeg o fuwch

System dreulioGolygu

Mae gwartheg yn gilgnowyr (anifeiliaid sy'n cnoi cil), sy'n golygu bod eu system dreulio yn hynod o arbenigol ac sy'n caniatáu bwyta planhigion anodd eu treulio. Mae gan wartheg un stumog gyda phedair adran, y rwmen, y reticwlwm, omaswm, ac abomaswm. Y rwmen yw'r fwyaf. Gelwir y reticwlwm, y sef yr adran leiaf, yn "ddiliau". Prif swyddogaeth yr omaswm yw amsugno dŵr a maetholion o'r porthiant (glaswellt fel rheol). Mae'r abomasum yn debyg i'r stumog ddynol; dyma pam mae'n cael ei adnabod fel "y gwir stumog".

Mae gwartheg yn nodedig am ail-cnoi eu bwyd, a gelwir hyn yn "gnoi cil" (cilgnoi). Tra bo'r anifail yn bwydo, mae'r bwyd yn cael ei lyncu heb gael ei gnoi ac yn mynd i mewn i'r rwmen i'w storio nes bo'r anifail yn gallu dod o hyd i le tawel i barhau â'r broses dreulio. Gall 'gnoi cil' hefyd olygu person yn ystyried rhywbeth neu'i gilydd. Caiff y bwyd ei yrru'n ol i'r geg i'w ail-gnoi, llond ceg ar y tro, lle mae'r bwyd, a elwir yn awr y cil, yn cael ei gnoi gan y cilddannedd, gan falu'r llystyfiant bras yn ronynnau bach. Yna mae'r ciw yn cael ei lyncu eto a'i dreulio ymhellach gan ficro-organebau arbenigol yn y rwmen. Mae'r microbau hyn yn bennaf gyfrifol am ddadelfennu seliwlos a charbohydradau eraill yn asidau brasterog cadwyn-fer (<i>short-chain fatty acid</i>) y mae gwartheg yn eu defnyddio fel eu prif danwydd metabolig.

Mae'r microbau yn y rwmen hefyd yn syntheseiddio asidau amino o ffynonellau nitrogenaidd nad ydynt yn brotein, fel wrea ac amonia. Wrth i'r microbau hyn atgynhyrchu yn y rwmen, mae cenedlaethau hŷn yn marw ac mae eu celloedd yn parhau trwy'r llwybr treulio. Yna caiff y celloedd hyn eu treulio'n rhannol yn y coluddion bach, gan ganiatáu i wartheg gael ffynhonnell brotein o ansawdd uchel. Mae'r nodweddion hyn yn galluogi gwartheg i ffynnu ar wair a llystyfiant caled arall.

BeichiogrwyddGolygu

Mae cyfnod beichiogrwydd buwch tua'r un cyfnod a merch feichiog: naw mis. Gall maint llo newydd-anedig amrywio rhwng bridiau, ond mae llo nodweddiadol yn pwyso 25 i 45 cilogram (55 i 99 pwys). Gall maint a phwysau yr oedolion amrywio'n sylweddol rhwng bridiau a rhyw. Yn gyffredinol mae bustych yn cael eu lladd cyn cyrraedd 750 kg. Gall stoc bridio fyw cyhyd â 25 mlynedd. Bu farw’r fuwch hynaf a gofnodwyd, Big Bertha, yn 48 oed ym 1993.

AtgynhyrchuGolygu

Ar ffermydd, y dyddiau hyn, mae'n gyffredin iawn defnyddio ffrwythloni artiffisial (AI), sef techneg atgenhedlu â chymorth meddygol sy'n cynnwys rhoi sampl artiffisial o semen yng ngwain y fuwch.[3] Fe'i defnyddir mewn achosion lle na all y sbermatosoa gyrraedd y tiwbiau ffalopaidd neu os yw'r ffermwr yn dewis AI am ryw reswm ee nad oes ganddo darw, neu i wella genynau'r epil.Mae AI yn golygu trosglwyddo, i'r groth y sbermatosoa a gasglwyd ac a broseswyd yn flaenorol, gan ddewis sbermatosoa normal a bywiog.

Mae pwrs buwch yn cynnwys dau bâr o chwarennau laeth, (a elwir yn gyffredin yn dethi) gan greu pedwar "chwarter". [4] Cyfeirir at y rhai blaen fel chwarteri blaen a'r rhai cefn fel chwarteri cefn.[5]

Gellir cydamseru ofyliad gwartheg er budd ffermio llaeth yn yr un modd ag y gwneir gyda defaid, er mwyn i'r wyn (neu'r lloi) cael eu geni ar amser arbennig.

Mae’r gymhareb rhyw eilaidd – y gymhareb o epil gwrywaidd i fenyw adeg eu geni – tua 52:48, er y gall gael ei ddylanwadu gan ffactorau amgylcheddol ayb.[6] Mae teirw'n dod yn ffrwythlon tua saith mis oed. Ceir cysylltiad agos rhwng eu ffrwythlondeb a maint eu ceilliau, ac un prawf ffrwythlondeb syml yw mesur cylchedd y sgrotwm (sef cwd y tarw): mae tarw ifanc yn debygol o fod yn ffrwythlon unwaith y bydd ei gwd yn cyrraedd 28 cm (11 mod); gall cwd tarw llawndwf fod dros 40 cm (16 mod) o ran cylchedd.

Mae gan darw bidyn ffibr-elastig. O ystyried y swm bach o feinwe i'w godi, nid chwyddo llawer ar ôl codi. Mae'r pidyn yn eithaf caled pan nad yw'n codi.[7][8][9]

PwysauGolygu

Record y byd am y tarw trymaf yw 1,740 kg, sef buwch o'r Eidal o fath Chianina o'r enw Donetto, pan gafodd ei arddangos yn sioe Arezzo, yn rhanbarth Toscana, yn 1955.[10] Roedd y bustach trymaf yn wyth oed 'Old Ben', ac o frid cymysg byrgorn / Henffordd a oedd yn pwyso 2,140 kg yn 1910.[11]

Yn yr Unol Daleithiau, mae pwysau cyfartalog gwartheg cig eidion wedi cynyddu'n raddol, yn enwedig ers y 1970au, gan olygu bod angen adeiladu lladd-dai newydd sy'n gallu trin carcasau llawer mwy. Ochr-yn-ochr a hyn, mae'r stecs a roddir ar blatiau bwyd yr Americanwyr hefyd wedi cynyddu.[12] Cyn 1790 pwysau cyfartalog gwartheg yn America oedd 160 kg (350 pwys).[13][14]

 
Astudir ystumiau clust buchod fel dangosyddion o'u cyflwr emosiynol a lles cyffredinol yr anifeiliaid.[15]

SynhwyrauGolygu

Mae gwartheg yn defnyddio pob un o'r pum synnwyr, sy'n cynorthwyo gyda rhai patrymau ymddygiad cymhleth, er enghraifft, pori. Mae gwartheg yn bwyta diet cymysg, ond pan gânt y cyfle, maent yn dangos ffafriaeth rannol i borthiant o tua 70% meillion a 30% glaswellt. Ar ben hyn, gwyddus fod un well gan wartheg feillion yn y bore, a glaswellt gyda'r nos.[16]

GolwgGolygu

Golwg yw'r prif synnwyr mewn gwartheg ac maent yn cael bron i 50% o'u gwybodaeth yn weledol.[17]

Mae gwartheg yn anifeiliaid a all fod yn ysglyfaeth i nifer o gigyswyr; mae eu llygaid wedi'u lleoli ar ochrau eu pen yn hytrach na'r blaen. Mae hyn yn rhoi maes gweld eang iddynt o 330° ond yn cyfyngu ar olwg ysbienddrych (ac felly stereopsis) i 30° - 50° o'i gymharu â 140° mewn bodau dynol.[18][19] Mae hyn yn golygu bod ganddyn nhw fan dall yn union y tu ôl iddyn nhw. Mae'r hyn a welant yn eitha manwl[18][17].

Mae gan wartheg ddau fath o dderbynyddion lliw yng nghelloedd côn eu retinas . Golyga hyn bod gwartheg yn ddeucromatig (yn gweld dau liw, nid tri), fel y rhan fwyaf o famaliaid tir eraill nad ydynt yn primatiaid.[20][21] Mae dwy i dair gwialen fesul côn yn y fovea centralis ond pump i chwech ger y papila optig.[19] Gall gwartheg wahaniaethu rhwng lliwiau tonfedd byr (melyn, oren a choch) yn llawer gwell na'r thonfeddi hirach (glas, llwyd a gwyrdd). Gall lloi wahaniaethu rhwng tonfeddi hir (coch) a byr (glas) neu ganolig (gwyrdd), ond mae eu gallu i wahaniaethu rhwng y byr a'r canolig yn gyfyngedig. Maent hefyd yn mynd at y ffermwr sy'n eu bwydo yn gyflymach o dan olau coch.[22] Er bod ganddo sensitifrwydd lliw da, nid yw cystal â bodau dynol neu ddefaid.[18]

Camsyniad cyffredin am wartheg (yn enwedig teirw) yw eu bod yn cael eu cynddeiriogi gan y lliw coch (dywedir weithiau fod dweud rhywbeth pryfoclyd "fel dangos baner goch i darw"). Myth yw hyn! Mewn ymladd teirw, symudiad y faner goch neu fantell goch sy'n cythruddo'r tarw ac yn ei gymell i ymosod, ac nid y lliw.[23]

BlasGolygu

Mae gan wartheg synnwyr blas datblygedig a gallant wahaniaethu rhwng y pedwar blas sylfaenol (melys, hallt, chwerw a sur). Mae ganddyn nhw tua 20,000 o flasbwyntiau. Mae cryfder canfyddiad blas yn dibynnu ar ofynion bwyd presennol yr unigolyn. Maent yn osgoi bwydydd â blas chwerw (a allai fod yn wenwynig) ac mae ganddynt ffafriaeth amlwg at fwydydd melys (gwerth caloriffig uchel) a hallt (cydbwysedd electrolyte). Mae eu sensitifrwydd i fwydydd blasu sur yn eu helpu i gynnal y pH gorau posibl.[17]

Mae gan blanhigion lefelau isel o sodiwm ac mae gwartheg wedi datblygu'r gallu i chwilio am halen trwy flas ac arogl. Gall dderbynyddion arogleuol ganfod symiau bach iawn o halwynau sodiwm.[24][25]

ClywGolygu

Mae clyw gwartheg yn amrywio o 23 Hz i 35 kHz. Eu hamlder sensitifrwydd gorau yw 8 kHz ac mae ganddynt drothwy isaf o −21 db (re 20 μN/m −2 ), sy'n golygu bod eu clyw yn fwy acíwt na cheffylau (trothwy isaf o 7 db).[26] Trothwy craffter lleoleiddio sain ar gyfartaledd yw 30°. Mae hyn yn golygu bod gwartheg yn llai abl i leoleiddio synau o gymharu â geifr (18°), cŵn (8°) a bodau dynol (0.8°).[27]

Mae brefu'n ddull pwysig o gyfathrebu ymhlith gwartheg a gall y swn hwn ddarparu gwybodaeth am oedran, rhyw, statws goruchafiaeth a statws atgenhedlu'r galwr. Gall lloi adnabod eu mamau o'u brefu.[28]

YmddygiadGolygu

O dan amodau naturiol, mae lloi'n aros gyda'u mam nes eu bod wedi diddyfnu yn 8 i 11 mis oed. Dyfnu yw llo'n sugno llaeth ei fam. Mae lloi heffrod a tharw yr un mor gysylltiedig â'u mamau yn ystod misoedd cyntaf eu bywydau.[29][30]

Fideo o lo bach yn sugno tethi ei fam

Mae lloi sy'n cael eu magu ar gyfer cig eidion sy’n cael eu magu ar dir pori yn sugno 5.0 gwaith bob 24 awr gyda chyfanswm amser cyfartalog o 46 munud a dreuliwyd yn sugno. O ran amser sugno, ceir rhythm dyddiol o sugno gyda'r anterth rhwng 05:00-07:00, 10:00-13:00 a 17:00-21:00.[31]

Ymddygiad atgenhedluGolygu

 
Buwch yn rhoi genedigaeth

Mae heffrod lled-wyllt yr Ucheldir yn rhoi genedigaeth am y tro cyntaf yn 2 neu 3 oed, ac mae amseriad geni yn cael ei gydamseru â ansawdd y bwyd naturiol. Y cyfwng lloia ar gyfartaledd yw 391 diwrnod, ac mae marwolaethau lloi o fewn blwyddyn gyntaf bywyd yn 5%.[32]

Dofi a hwsmonaethGolygu

 
Mae Texas Longhorns yn frid yn yr Unol Daleithiau.

Mae gan wartheg rôl unigryw yn hanes y ddynolryw, ar ôl cael eu dofi ers yOes Newydd y Cerrig o leiaf.

Mae data archaeolegol a genetig yn dangos i wartheg gael eu dofi am y tro cyntaf o aurochiaid gwyllt (Bos primigenius ) tua 10,500 o flynyddoedd yn ôl. Roedd dwy prif ardal lle cawsant eu dofi: un yn y Dwyrain Agos (yn benodol ganolog Anatolia, y Lefant a Gorllewin Iran), a arweiniodd at y llinell thawrin, ac ail yn yr ardal a elwir bellach yn Pacistan, gan arwain at y llinell indicin.[33] Mae amrywiad DNA mitocondriaidd modern yn dangos y gallai'r llinell thawrin fod wedi codi o gyn lleied ag 80 auroch wedi'u dofi yn y rhannau uchaf o Mesopotamia ger pentrefi Çayönü Tepesi yn yr hyn sydd bellach yn dde-ddwyrain Twrci a Dja'de el-Mughara yn yr hyn sydd bellach yn ogledd Syria.[34]

Er bod gwartheg Ewropeaidd yn disgyn yn bennaf o'r llinach taurin, cyfrannodd llif genynnau gwartheg Affricanaidd yn sylweddol i fridiau gwartheg o dde Ewrop a'u disgynyddion Byd Newydd.[33] Dangosodd astudiaeth ar 134 o fridiau fod gwartheg tawrin modern yn tarddu o Affrica, Asia, Gogledd a De America, Awstralia ac Ewrop.[35] Mae rhai ymchwilwyr wedi awgrymu bod gwartheg taurin Affricanaidd yn deillio o drydydd system o ddofi annibynnol sef o'r aurochsen yng Nggledd Affrica.[33]

Defnydd fel arianGolygu

Mor gynnar â 9000 CC defnyddiwyd grawn a gwartheg fel arian neu fel cyfnewidyn (barter). Mae'r olion grawn cyntaf a ddarganfuwyd, yn perthyn i'r cyfnod cyn-amaethyddol, ac yn dyddio i 17,000 CC).[36][37][38] Mae peth tystiolaeth hefyd i awgrymu y gallai anifeiliaid eraill, megis camelod a geifr, fod wedi cael eu defnyddio fel arian cyfred mewn rhai rhannau o'r byd.[39] Un o fanteision defnyddio gwartheg fel arian cyfred (ac fel cyfnewidion) yw ei fod yn caniatáu i'r gwerthwr osod pris sefydlog. Am y tro cyntaf, felly, gwelwyd rhywbeth a oedd yn ymylu ar 'bris safonol'. Er enghraifft, roedd dwy iâr yn cael eu masnachu am un fuwch gan fod buchod yn cael eu hystyried yn fwy gwerthfawr nag ieir.[37]

Hwsmonaeth fodernGolygu

 
Mae'r fuwch Henffordd hon yn cael ei harchwilio am drogod. Mae gwartheg yn aml yn cael eu ffrwyno neu eu cyfyngu mewn gwasgfeydd gwartheg (fel yn y ffotograff yma) pan roddir sylw meddygol iddynt.
 
Mae gan y buwch ifanc hon fodrwy trwyn i'w hatal rhag sugno, sydd fel arfer i gynorthwyo gyda diddyfnu.

Mae gwartheg yn aml yn cael eu magu ar faesydd glaswelltog eang. Fel hyn, defnyddir tir a allai fod yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau. Prif waith yr amaethwr yw bwydo, glanhau a godro, a hynny sawl tro'r bob dydd. Ymhlith y gwaith arall mae tagio clustiau, digornio, llawdriniaethau meddygol, ffrwythloni artiffisial, brechiadau a gofal am y carnau, yn ogystal â hyfforddiant ar gyfer sioeau amaethyddol a pharatoadoi. Ceir rhai gwahaniaethau diwylliannol wrth weithio gyda gwartheg; mae hwsmonaeth gwartheg dynion Fulani yn dibynnu ar dechnegau ymddygiadol, ond yn Ewrop, mae gwartheg yn cael eu rheoli'n bennaf trwy ddulliau corfforol, megis ffensys.[40] Mae bridwyr yn defnyddio hwsmonaeth gwartheg i leihau heintiau megis haint M. bovis trwy fridio detholus a chynnal iechyd y fuches.[41]

Mae gwartheg yn cael eu ffermio ar gyfer cig eidion, cig llo, llaeth a lledr. Cânt eu defnyddio’n llai cyffredin ar gyfer pori cadwraethol, neu’n i gynnal glaswelltir ar gyfer bywyd gwyllt. Fe'u defnyddir yn aml mewn rhai o'r mannau mwyaf gwyllt ar gyfer da byw. Yn dibynnu ar y brid, gall gwartheg oroesi ar fynyddoedd, rhostiroedd, corsydd, gweunydd a lled-anialwch. Mae gwartheg modern yn fwy masnachol na bridiau hŷn ac, ar ôl dod yn fwy arbenigol, ond yn llai amlbwrpas. Am y rheswm hwn, mae llawer o ffermwyr llai yn dal i ffafrio hen fridiau, fel brîd llaeth Jersey. Ym Mhortiwgal, Sbaen (ar wahân i Gatalwnia), de Ffrainc a rhai o wledydd America Ladin, defnyddir teirw i ymladd teirw; Mewn llawer o wledydd eraill mae ymladd teirw'n anghyfreithlon. Fel rhan o rodeo, yn enwedig yng Ngogledd America, ceir marchogaeth teirw. ac mae llamu tarw, defod ganolog yn niwylliant Minoaidd yr Oes Efydd, yn dal i fodoli yn ne-orllewin Ffrainc. Yn y cyfnod modern, mae gwartheg hefyd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau amaethyddol megis Sioe Llanelwedd.

Mae bwyta gwartheg yn llai effeithlon na grawn a llysiau o ran defnydd tir ar blaned sydd a'i boblogaeth yn cynyddu'n aruthrol, ac o ran methan a newid hinsawdd. Mae pori gwartheg yn defnyddio mwy o arwynebedd na chynhyrchiant amaethyddol arall o'i fagu ar rawn.[42] O'i roi'n syml: mae cae 1 acer o rawn yn medru bwydo mwy o bobl na chae 1 acer o wartheg.

CwsgGolygu

Amser cwsg cyfartalog buwch ddof yw tua 4 awr y dydd.[43] Mae gan wartheg offer cloi meinweoedd y coesau,[44] ond, yn wahanol i geffylau, nid ydynt yn cysgu wrth sefyll;[45] gorweddant i gysgu'n ddwfn.[46][47]

EconomiGolygu

 
Gwartheg Holstein yw'r brîd llaeth sylfaenol

Mae cig o wartheg oedolion yn cael ei adnabod fel cig eidion, a cheir hefyd cig llo (veal) mewn ambell iaith. Defnyddir rhannau anifeiliaid eraill hefyd fel cynhyrchion bwyd, gan gynnwys gwaed i wneud pwdin gwaed, afu (neu iau) yr arennau, y galon a chynffon ychen. Mae gwartheg hefyd yn cynhyrchu llaeth, ac mae gwartheg llaeth yn cael eu bridio'n benodol i gynhyrchu'r llynnoedd mawr o laeth sy'n cael ei brosesu a'i werthu i'w yfed gan bobl. Mae gwartheg heddiw'n sail i ddiwydiant gwerth biliynau o ddoleri ledled y byd. Roedd y fasnach ryngwladol mewn cig eidion yn 2000 dros $30 biliwn.[48] Caiff tua 300 miliwn o wartheg, gan gynnwys gwartheg godro, eu lladd bob blwyddyn fel bwyd.[49] Defnyddir llaeth hefyd i wneud caws, menyn, iogwrt, a chynhyrchion llaeth eraill, yn debyg o ran maint economaidd i gynhyrchu cig eidion, ac mae'n darparu rhan bwysig o'r cyflenwad bwyd i lawer o wledydd y byd. Mae crwyn gwartheg yn cael eu defnyddio i wneud lledr ar gyfer esgidiau, cadeiriau a soffas.

Prif gynhyrchwyr cig gwarthegGolygu

Cynhyrchu cig gwartheg (y mil tunnell - kt)
Gwlad 2008 2009 2010 2011
Ariannin 3132 3378 2630 2497
Awstralia 2132 2124 2630 2420
Brasil 9024 9395 9115 9030
Tsieina 5841 6060 6244 6182
Yr Almaen 1199 1190 1205 1170
Japan 520 517 515 500
U.S 12163 11891 12046 11988

Ffynhonnell: Llyfrgell Helgi, [50] Banc y Byd, FAOSTAT

Daw tua hanner cig y byd o wartheg.[51] 

LlaethGolygu

 
Ar un adeg roedd ffermio llaeth a godro gwartheg yn cael ei wneud â llaw, ond erbyn hyn mae'n cael ei wneud â pheiriant fel arfer.

Defnyddir rhai bridiau o wartheg, megis yr Holstein-Friesian, i gynhyrchu llaeth,[52][53]. Mae gwartheg godro fel arfer yn cael eu cadw ar ffermydd llaeth arbenigol sydd wedi'u cynllunio ar gyfer cynhyrchu llaeth. Yng Nghymru, ceir ffermydd yn 2020au, lle mae'r fuches i fewn mewn sied ddydd a nos, 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae’r rhan fwyaf o wartheg yn cael eu godro ddwywaith y dydd, gyda llaeth yn cael ei brosesu mewn llaethdy, a all fod ar y safle ar y fferm neu gall y llaeth gael ei gludo i ffatri laeth er mwyn gwerthu cynnyrch llaeth yn y pen draw.[54] Gellir hybu'n fuwch i greu llaeth trwy gyfuniad o ysgogiadau a thriciau corfforol a seicolegol, gan gyffuriau, neu gan gyfuniad o'r dulliau hyn.[55][56] Er mwyn i'r fam barhau i gynhyrchu llaeth, maent yn rhoi genedigaeth i un llo'r flwyddyn. Os yw'r llo yn wryw, fel arfer caiff ei ladd yn ifanc i gynhyrchu cig llo bach.[57] Bydd y fam-fuwch yn parhau i gynhyrchu llaeth am dair wythnos cyn geni'r llo nesaf.[53] Dros yr hanner can mlynedd diwethaf, mae ffermio llaeth wedi dod yn fwy dwys, ac mae hyn yn rhan o ffermio dwys, mewn gwledydd fel Cymru. Yr Holstein-Friesian yw’r brid o fuchod godro sydd fwyaf cyffredin yn y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau. Mae wedi'i fridio'n arbennig drwy ddetholiad i gynhyrchu'r cynnyrch llaeth uchaf ei safon. Ceir tua 22 litr y dydd gan un fuwch ar gyfartaledd gwledydd Prydain.[52][53]

LledrGolygu

Nid yw’r rhan fwyaf o wartheg yn cael eu cadw ar gyfer eu crwyn yn unig, sydd fel arfer yn sgil-gynnyrch cynhyrchu cig eidion. Defnyddir crwyn gwartheg yn bennafcreu ar gyfer lledr. Yn 2012 India oedd cynhyrchydd mwyaf y byd o grwyn gwartheg.[58]

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Daw'r term yma o 'gosod', mae'n debyg hy gosodir y tarw ar gefn y fuwch sydd mewn gwres.Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd Medi 2015
  2. Fferm a Thyddyn; golygydd Twm Elias; Rhif 54, 2014.
  3. Richard M. Hopper (18 August 2014). Bovine Reproduction. Wiley. ISBN 978-1-118-47085-5.
  4. Hasheider, Phillip (25 June 2011). The Family Cow Handbook. ISBN 978-0-7603-4067-7.
  5. "Udder Structure & Disease" (PDF). UVM. 6 May 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 18 May 2015.
  6. Roche, J.R.; Lee, J.M.; Berry, D.P. (2006). "Pre-Conception Energy Balance and Secondary Sex Ratio—Partial Support for the Trivers-Willard Hypothesis in Dairy Cows". Journal of Dairy Science (American Dairy Science Association) 89 (6): 2119–2125. doi:10.3168/jds.s0022-0302(06)72282-2. ISSN 0022-0302.
  7. Sarkar, A. (2003). Sexual Behaviour In Animals. Discovery Publishing House. ISBN 978-81-7141-746-9.
  8. William O. Reece (2009). Functional Anatomy and Physiology of Domestic Animals. John Wiley & Sons. ISBN 978-0-8138-1451-3.
  9. James R. Gillespie; Frank Flanders (2009). Modern Livestock & Poultry Production. Cengage Learning. ISBN 978-1-4283-1808-3.
  10. Friend, John B., Cattle of the World, Blandford Press, Dorset, 1978
  11. McWhirter, Norris & Ross, Guinness Book of Records, Redwood Press, Trowbridge, 1968
  12. Kenneth H. Mathews – 1999 – U.S. Beef Industry: Cattle Cycles, Price Spreads, and Packer concentration. Page 6
  13. American Economic Growth and Standards of Living before the Civil War, Robert E. Gallman, John Joseph Wallis. 2007 p. 248
  14. "Cattle increasing in size". Beef Magazine. February 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 May 2015. Cyrchwyd 5 May 2015.
  15. Proctor, Helen S.; Carder, Gemma (9 October 2014). "Can ear postures reliably measure the positive emotional state of cows?". Applied Animal Behaviour Science 161: 20–27. doi:10.1016/j.applanim.2014.09.015. http://www.appliedanimalbehaviour.com/article/S0168-1591(14)00249-4/abstract.
  16. Rutter, S.M. (2006). "Diet preference for grass and legumes in free-ranging domestic sheep and cattle: current theory and future application.". Applied Animal Behaviour Science 97 (1): 17–35. doi:10.1016/j.applanim.2005.11.016.
  17. 17.0 17.1 17.2 Adamczyk, K.; Górecka-Bruzda, A.; Nowicki, J.; Gumułka, M.; Molik, E.; Schwarz, T.; Klocek, C. (2015). "Perception of environment in farm animals – A review". Annals of Animal Science 15 (3): 565–589. doi:10.1515/aoas-2015-0031.
  18. 18.0 18.1 18.2 Coulon, M.; Baudoin, C.; Heyman, Y.; Deputte, B.L. (2011). "Cattle discriminate between familiar and unfamiliar conspecifics by using only head visual cues". Animal Cognition 14 (2): 279–290. doi:10.1007/s10071-010-0361-6. PMID 21132446.
  19. 19.0 19.1 Phillips, C. (2008). Cattle Behaviour and Welfare. John Wiley and Sons.
  20. Jacobs, G.H.; Deegan, J.F.; Neitz, J. (1998). "Photopigment basis for dichromatic color vision in cows, goats and sheep". Vis. Neurosci. 15 (3): 581–584. doi:10.1017/s0952523898153154. PMID 9685209.
  21. Phillips, C.J.C.; Lomas, C.A. (2001). "Perception of color by cattle and its influence on behavior". Journal of Dairy Science 84 (4): 807–813. doi:10.3168/jds.s0022-0302(01)74537-7. PMID 11352156.
  22. Phillips, C.J.C.; Lomas, C.A. (2001). "The perception of color by cattle and its influence on behavior". Journal of Dairy Science 84 (4): 807–813. doi:10.3168/jds.S0022-0302(01)74537-7. PMID 11352156.
  23. "Why Do Bulls Charge When they See Red?". Live Science. 6 February 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2015.
  24. Bell, F.R.; Sly, J. (1983). "The olfactory detection of sodium and lithium salts by sodium deficient cattle.". Physiology and Behavior 31 (3): 307–312. doi:10.1016/0031-9384(83)90193-2. PMID 6634998.
  25. Bell, F. R. (1984). "Aspects of ingestive behavior in cattle". Journal of Animal Science 59 (5): 1369–1372. doi:10.2527/jas1984.5951369x. PMID 6392276.
  26. Heffner, R.S.; Heffner, H.E. (1983). "Hearing in large mammals: Horses (Equus caballus) and cattle (Bos taurus)". Behavioral Neuroscience 97 (2): 299–309. doi:10.1037/0735-7044.97.2.299.
  27. Heffner, R.S.; Heffner, H.E. (1992). "Hearing in large mammals: sound-localization acuity in cattle (Bos taurus) and goats (Capra hircus)". Journal of Comparative Psychology 106 (2): 107–113. doi:10.1037/0735-7036.106.2.107. PMID 1600717.
  28. Watts, J.M.; Stookey, J.M. (2000). "Vocal behaviour in cattle: the animal's commentary on its biological processes and welfare". Applied Animal Behaviour Science 67 (1): 15–33. doi:10.1016/S0168-1591(99)00108-2. PMID 10719186.
  29. Johnsen, J.F.; Ellingsen, K.; Grøndahl, A.M.; Bøe, K.E.; Lidfors, L.; Mejdell, C.M. (2015). "The effect of physical contact between dairy cows and calves during separation on their post-separation behavioural". Applied Animal Behaviour Science 166: 11–19. doi:10.1016/j.applanim.2015.03.002. https://www.researchgate.net/publication/274013035.
  30. Edwards, S.A.; Broom, D.M. (1982). "Behavioural interactions of dairy cows with their newborn calves and the effects of parity". Animal Behaviour 30 (2): 525–535. doi:10.1016/s0003-3472(82)80065-1.
  31. Odde, K. G.; Kiracofe, G.H.; Schalles, R.R. (1985). "Suckling behavior in range beef calves". Journal of Animal Science 61 (2): 307–309. doi:10.2527/jas1985.612307x. PMID 4044428.
  32. Reinhardt, C.; Reinhardt, A.; Reinhardt, V. (1986). "Social behaviour and reproductive performance in semi-wild Scottish Highland cattle". Applied Animal Behaviour Science 15 (2): 125–136. doi:10.1016/0168-1591(86)90058-4.
  33. 33.0 33.1 33.2 McTavish, E.J.; Decker, J.E.; Schnabel, R.D.; Taylor, J.F.; Hillis, D.M.year=2013 (2013). "New World cattle show ancestry from multiple independent domestication events". Proc. Natl. Acad. Sci. U.S.A. 110 (15): E1398–1406. Bibcode 2013PNAS..110E1398M. doi:10.1073/pnas.1303367110. PMC 3625352. PMID 23530234. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3625352.
  34. Bollongino, R.; Burger, J.; Powell, A.; Mashkour, M.; Vigne, J.-D.; Thomas, M. G. (2012). "Modern taurine cattle descended from small number of Near-Eastern founders". Molecular Biology and Evolution 29 (9): 2101–2104. doi:10.1093/molbev/mss092. PMID 22422765. Op. cit. in Wilkins, Alasdair (28 March 2012). "DNA reveals that cows were almost impossible to domesticate". io9. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 May 2012. Cyrchwyd 2 April 2012.
  35. Decker, J.E.; McKay, S.D.; Rolf, M.M.; Kim, J.; Molina Alcalá, A.; Sonstegard, T.S. (2014). "Worldwide patterns of ancestry, divergence, and admixture in domesticated cattle.". PLOS Genet. 10 (3): e1004254. doi:10.1371/journal.pgen.1004254. PMC 3967955. PMID 24675901. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3967955.
  36. Gustavo A Slafer; Jose Luis Molina-Cano; Roxana Savin; Jose Luis Araus; Ignacio Romagosa (2002). Barley Science: Recent Advances from Molecular Biology to Agronomy of Yield and Quality. CRC Press. t. 1. ISBN 978-1-56022-910-0.
  37. 37.0 37.1 Glyn Davies; Julian Hodge Bank (2002). A history of money: from ancient times to the present day. University of Wales Press. ISBN 978-0-7083-1717-4.
  38. Jesús Huerta de Soto (2006). Money, Bank Credit, and Economic Cycles. Ludwig von Mises Institute. t. 51. ISBN 978-1-61016-388-0.
  39. "The History of Money". PBS. Cyrchwyd 15 July 2021.
  40. Lott, Dale F.; Hart, Benjamin L. (October 1979). "Applied ethology in a nomadic cattle culture". Applied Animal Ethology 5 (4): 309–319. doi:10.1016/0304-3762(79)90102-0.
  41. Bovine tuberculosis in cattle and badgers: an independent scientific review. Ministry of Agriculture, Fisheries and Food. 1997. http://www.defra.gov.uk/animalh/tb/publications/hpanel.pdf. Adalwyd 4 September 2006.
  42. Edward O. Wilson, The Future of Life, 2003, Vintage Books, 256 pages ISBN 0-679-76811-4
  43. "40 Winks?" Jennifer S. Holland, National Geographic Vol. 220, No. 1. July 2011.
  44. Asprea, Lori; Sturtz, Robin (2012). Anatomy and physiology for veterinary technicians and nurses a clinical approach. Chichester: Iowa State University Pre. t. 109. ISBN 978-1-118-40584-0.
  45. "Animal MythBusters – Manitoba Veterinary Medical Association". www.mvma.ca. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 April 2016.
  46. Collins, Nick (6 September 2013). "Cow tipping myth dispelled". The Daily Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 April 2016. Cyrchwyd 18 May 2016.
  47. Haines, Lester (9 November 2005). "Boffins debunk cow-tipping myth". The Register UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 October 2012. Cyrchwyd 30 November 2012.
  48. (Clay 2004).
  49. "FAOSTAT". www.fao.org. Cyrchwyd 2019-10-25.
  50. | "HelgiLibrary – Cattle Meat Production". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 April 2014. Cyrchwyd 12 February 2014. Cattle Meat Production | 12 February 2014
  51. Rickard, G., & Book, I. (1999). Bovids:useful ruminants. In Investigating God's world (3rd ed.). Pensacola, Fla.: A Beka Book.
  52. 52.0 52.1 "UK Dairy Cows". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2015. Cyrchwyd 7 May 2015.
  53. 53.0 53.1 53.2 "Compassion in World Farming: Dairy Cattle". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2015. Cyrchwyd 7 May 2015.
  54. Pearson, R.E.; Fulton, L.A.; Thompson, P.D.; Smith, J.W. (1979). "Milking 3 Times per day". Journal of Dairy Science 62 (12): 1941–1950. doi:10.3168/jds.S0022-0302(79)83526-2. PMID 541464. http://www.journalofdairyscience.org/article/S0022-0302%2879%2983526-2/abstract.
  55. Glenza, Jessica (14 February 2018). "Transgender woman able to breastfeed in first documented case".
  56. Reisman, Tamar; Goldstein, Zil (2018). "Case Report: Induced Lactation in a Transgender Woman". Transgender Health 3 (1): 24–26. doi:10.1089/trgh.2017.0044. PMC 5779241. PMID 29372185. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5779241.
  57. "Veal and the Dairy Industry". Compassion in World Farming. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2015. Cyrchwyd 9 May 2015.
  58. "FAO – Cattle Hides" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 28 January 2015. Cyrchwyd 16 May 2015.
  • Bhattacharya, S. 2003. Cattle ownership makes it a man's world Archifwyd 7 October 2008 yn y Peiriant Wayback.. Newscientist.com. Retrieved 26 December 2006.
  • Cattle Today (CT). 2006. Website. Breeds of cattle. Cattle Today. Retrieved 26 December 2006
  • Clay, J. 2004. World Agriculture and the Environment: A Commodity-by-Commodity Guide to Impacts and Practices. Washington, DC: Island Press. ISBN 1-55963-370-0.
  • Clutton-Brock, J. 1999. A Natural History of Domesticated Mammals. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 0-521-63495-4.
  • Purdy, Herman R.; R. John Dawes; Dr. Robert Hough (2008). Breeds Of Cattle (arg. 2nd). – A visual textbook containing History/Origin, Phenotype & Statistics of 45 breeds.
  • Huffman, B. 2006. The ultimate ungulate page. UltimateUngulate.com. Retrieved 26 December 2006.
  • Invasive Species Specialist Group (ISSG). 2005. Bos taurus. Global Invasive Species Database.
  • Johns, Catherine. 2011 Cattle: History, Myth, Art. London: The British Museum Press. 978-0-7141-5084-0
  • Nowak, R.M. and Paradiso, J.L. 1983. Walker's Mammals of the World. Baltimore, MD: The Johns Hopkins University Press. ISBN 0-8018-2525-3
  • Oklahoma State University (OSU). 2006. Breeds of Cattle. Retrieved 5 January 2007.
  • Public Broadcasting Service (PBS). 2004. Holy cow. PBS Nature. Retrieved 5 January 2007.
  • Rath, S. 1998. The Complete Cow. Stillwater, MN: Voyageur Press. ISBN 0-89658-375-9.
  • Raudiansky, S. 1992. The Covenant of the Wild. New York: William Morrow and Company, Inc. ISBN 0-688-09610-7.
  • Spectrum Commodities (SC). 2006. Live cattle. Spectrumcommodities.com. Retrieved 5 January 2007.
  • Voelker, W. 1986. The Natural History of Living Mammals. Medford, NJ: Plexus Publishing, Inc. ISBN 0-937548-08-1.
  • Yogananda, P. 1946. The Autobiography of a Yogi. Los Angeles: Self Realization Fellowship. ISBN 0-87612-083-4.
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).


Chwiliwch am buwch
yn Wiciadur.
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: