Cerddor a gwleidydd o Gymru yw Bronwen Naish (ganwyd 19 Tachwedd 1938).[1]

Bronwen Naish
Ganwyd19 Tachwedd 1938 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata

Ganwyd Naish yn Burley, Hampshire a mynychodd Ysgol Gyfun Caergybi, Ynys Môn, a Coleg Frenhinol Cerddoriaeth Manceinion. Bu'n athrawes yn ystod yr 1960au a'r 1970au yn dysgu'r sielo a'r bas feiol. Ar frig ei gyrfa hi oedd yr unig chwaraewr bas feiol benywaidd yn y byd, ac un o chwaraewyr mwyaf blaengar yr offeryn yn y Deyrnas Unedig.[2]

Cyhoeddodd lyfr, Another Bee in my Bonnet, ym 1981.[3]

Naish oedd ymgeisydd y Blaid Geidwadol ar gyfer etholaeth Caernarfon yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999. Bu hefyd yn ymgeisydd ar gyfer etholaeth seneddol Caernarfon yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig 2001.[2]

Mae Naish wedi ysgaru, a chafodd bump o blant. Mae'n byw yn ardal Garndolbenmaen.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Who's Who 2004. Who's Who. Adalwyd ar 3 Mehefin 2016.
  2. 2.0 2.1  Vote 2001 Candidate: Bronwen Naish. BBC.
  3. Bronwen Naish (22 Mehefin 1981). Another Bee in my Bonnet. Pelham Books. ISBN 978-0720713176


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.