Bronwen Astor
Model oedd Bronwen Astor, Is-iarlles Astor (née Alun Pugh; 6 Mehefin 1930 – 28 Rhagfyr 2017). Bu hefyd yn awen ac yn couturier i Pierre Balmain, a'i disgrifiodd fel un o'r merched prydferthaf iddo erioed gyfarfod.[1]
Bronwen Astor | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mehefin 1930 |
Bu farw | 28 Rhagfyr 2017 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | model |
Tad | John Alun Pugh |
Priod | William Astor, 3ydd is-iarll Astor |
Plant | Janet Astor, Pauline Marian Astor |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Janet Bronwen Alun Pugh yn Llundain, yn ferch i Syr John Alun Pugh, adnabyddir yn gyffredinol wrth ei henw canol, Bronwen.[2] Addysgwyd yn Ysgol Dr. Williams yn Nolgellau, Gwynedd.[3]
Ar 14 Hydref 1960 priododd â 3ydd Is-iarll Astor, mab Nancy Astor, y ddynes gyntaf i gymryd sedd yn Nhŷ'r Cyffredin. Bronwen oedd ei drydydd gwraig. Wedi tair blynedd o briodas, tröwyd ei bywyd ar ei ben i lawr yn sgil Helynt Profumo, a ddymchwelodd llywodraeth Harold Macmillan. Ym 1966, bu farw ei gŵr yn ifanc, gan ei gadael i ofalu am ddau blentyn dan 5 oed.[1]
Agorodd ei thŷ i'r digartref, ac ym 1983 hyfforddodd fel seicotherapydd.[1] Cyhoeddwyd ei bywgraffiad, Bronwen Astor: Her Life and Times, yn 2000.
Teulu
golyguGŵr
golygu- William Astor, 3ydd Is-iarll Astor (13 Awst 1907 – 7 Mawrth 1966)
Plant
golygu- Janet Elizabeth Astor (ganwyd 1 Rhagfyr 1961)
- Pauline Marian Astor (ganwyd 26 Mawrth 1964)
Llyfryddiaeth
golygu- Peter Stanford (1999). Bronwen Astor : Her Life and Times. HarperCollins. ISBN 9780002558396
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 The Women: Bronwen Astor. Visionary Dialogues with Modern Women.
- ↑ Janet Bronwen Alun Pugh. thePeerage.com.
- ↑ Addysg ddelfrydol yn straeon Enid Blyton yn bell o’r gwir. Western Mail (1 Rhagfyr 2009).