Bryn Coed yr Esgob
bryn i'r de o Brestatyn, Sir Ddinbych
Bryn Coed yr Esgob (neu Fryn Prestatyn) ydy'r bryncyn mwyaf gogleddol o holl Fryniau Clwyd, (211m; Cyfeirnod OS: SJ06808120), sy'n rhoi ffin ddeheuol i Brestatyn. Saif i'r gorllewin o Waenysgor a thydy'r môr yn ddim ond tua 1.5 kilometr i'r gogledd ohono. Mwyngloddiwyd plwm a chalch yma yn y 18ed a'r 19eg ganrif.[1]
Math | bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Gallt Melyd |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 205 metr |
Cyfesurynnau | 53.319051°N 3.3977°W |
Ceir hefyd ar y llethrau hen goedlan dderw o'r enw "Coed yr Esgob". Mae'r ferywen (sy'n brin iawn ac yn un o dair coeden gynhenid i Ynys Prydain), yn tyfu yma. Gan fod y tir mor serth, fe oroesodd yr hen dderw ar y llethrau isaf. Ceir yma fathau diddorol o redyn ar y tir llaith, cysgodol.
Ffurfiwyd calchfaen y bryn mewn môr trofannol a oedd yn gyforiog o fywyd, tua 350 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Cyfeiriadau
golyguGweler hefyd
golygu- Coed Esgob, Llanelwy