Gwaenysgor

pentref yn Sir y Fflint

Pentref a plwyf eglwysig yng nghymuned Trelawnyd a Gwaenysgor, Sir y Fflint, Cymru, yw Gwaenysgor ("Cymorth – Sain" ynganiad ) neu Gwaunysgor. Saif fymryn i'r de-ddwyrain o dref Prestatyn. Mae Llwybr Clawdd Offa yn mynd heibio iddo.

Gwaenysgor
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTrelawnyd a Gwaenysgor Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3186°N 3.3897°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHannah Blythyn (Llafur)
AS/auBecky Gittins (Llafur)
Map

Gerllaw mae adfeilion RAF Gwaenysgor, adfeilion "St Elmo’s Summerhouse" a dau feddrod hynafol. [1][2] Roedd gan y pentref ysgol hyd at 1968. Erbyn nyn, mae'r adeiladad wedi dod yn Neuadd y Pentref.[3]

Eglwys y Santes Fair
Machlud o'r gulfan, Gwaenysgor

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[5]

Cysegrwyd yr eglwys i Mair Fadlen. Crybwyllir y plwyf a'r eglwys yn Llyfr Dydd y Farn (1086) fel "Wenescol".[6] Credir bod y rhan fwyaf o'r adeilad presennol ychydig yn hwyrach. Roedd pentref neolithig ar y safle.[7]

Enwogion

golygu

Gordon MacDonald, Barwn 1af MacDonald o Waenysgor (1888-1966), gwleidydd Llafur a Llywodraethwr Newfoundland

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan themodernantiquarian.com
  2. Gwefan Coflein
  3. "Gwefan pentrefi Gwaenysgor a Threlawnyd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-09. Cyrchwyd 2021-01-08.
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
  6. Gwaunysgor yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
  7. Gwefan Genuki
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato