Maestref o ddinas Abertawe yw Brynmill. Fe'i lleolir tua dwy filltir (3.2 km) i'r gorllewin o ganol y ddinas. Ardal breswyl ddosbarth canol yw e'n bennaf, ac gan fod Prifysgol Abertawe yn agos iawn mae nifer o fyfyrwyr yn rhenti tai yno yn ystod y tymor.

Brynmill
Mathmaestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.61°N 3.97°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJulie James (Llafur)
AS/auGeraint Davies (Llafur)
Map

Ffinir Brynmill gan Fae Abertawe i'r de, Lôn Brynmill i'r gorllewin, Rhodfa Glanbrydan i'r gogledd, Heol Bryn-y-Mor i'r gogledd-ddwyrain, a Heol Guildhall i'r de-ddwyrain.

Lleolir Brynmill ar dir serth ac mae nifer o'r adeiladau wedi'u codi ar lethrau. O ganlyniad, gall ymsuddiant fod yn broblem yn yr ardal hon. Mae prisiau tai yn Brynmill o amgylch y cyfartaledd cenedlaethol.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Julie James (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Geraint Davies (Llafur).[1][2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014