Julie James
Gwleidydd Llafur Cymru yw Julie James AS (ganwyd 25 Chwefror 1958)[1]. Mae'n Aelod o'r Senedd dros etholaeth Gorllewin Abertawe ers 2011.[2][3]
Julie James AS | |
---|---|
Llun swyddogol, 2024 | |
Gweinidog Tai a Llywodraeth Lleol | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 13 Rhagfyr 2018 | |
Prif Weinidog | Mark Drakeford |
Rhagflaenwyd gan | Alun Davies |
Arweinydd y Tŷ Prif Chwip | |
Yn ei swydd 3 Tachwedd 2017 – 13 Rhagfyr 2018 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones |
Rhagflaenwyd gan | Jane Hutt |
Dilynwyd gan | Jane Hutt & Rebecca Evans |
Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg | |
Yn ei swydd 11 Mai 2014 – 3 Tachwedd 2017 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones |
Rhagflaenwyd gan | Ken Skates |
Dilynwyd gan | Lee Waters |
Aelod o Senedd Cymru dros Orllewin Abertawe | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 2011 | |
Rhagflaenwyd gan | Andrew Davies |
Mwyafrif | 5,080 |
Manylion personol | |
Ganwyd | Abertawe | 25 Chwefror 1958
Cenedligrwydd | Cymraes |
Plaid wleidyddol | Llafur Cymru |
Priod | David |
Plant | 3 |
Alma mater | Prifysgol Sussex Polytechnic Canol Llundain Ysgol y Gyfraith Inns of Court |
Galwedigaeth | Bargyfreithiwr, Gwas sifil |
Gwefan | Gwefan wleidyddol |
Bywyd cynnar
golyguCafodd ei geni yn Abertawe, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i blynyddoedd iau yn byw mewn amryw lefydd o gwmpas y byd gyda'i theulu. Yn 16 oed ymunodd â'r Blaid Lafur a hi oedd y cyntaf o'i theulu i astudio yn y brifysgol.[4][5]
Ganwyd Julie i rieni ifanc ac roedd yn unig blentyn nes geni ei chwaer, pan oedd hi'n 8 mlwydd oed a ganwyd ei brawd pan oedd yn 15. Mae ei chwaer yn byw yn Abertawe ac ei brawd Richard yw'r cerddor adnabyddus Aphex Twin.[6]
Gyrfa broffesiynol
golyguYn gyntaf astudiodd James Astudiaethau Americanaidd a Hanes ym Mhrifysgol Sussex, gan raddio ym 1980. Yna aeth i astudio'r Gyfraith yng Ngholeg Polytechnig Canol Llundain, gan raddio yn 1982, ac aeth ymlaen i Ysgol y Gyfraith Inns of Court yn Llundain i hyfforddi fel bargyfreithiwr, gan basio'r bar yn 1983.
Cychwynnodd ei gyrfa yn gweithio fel cyfreithiwr polisi gyda Bwrdeistref Camden yn Llundain. Yna symudodd yn ôl i Abertawe i fagu ei thri phlentyn a dechreuodd weithio i Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg fel Ysgrifennydd Cynorthwyol y Sir (Gwasanaethau Cyfreithiol).
Yn ddiweddarach gweithiodd James ar gyfer Ddinas a Sir Cyngor Abertawe, lle ei swydd olaf oedd Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu). Fe adawodd mewn protest pan arwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol gontract roedd hi'n ystyried ei fod wedi gwastraffu 'miliynau o bunnoedd'. Aeth yn ei blaen i ymuno gyda chyfreithwyr Clarkslegal LLP yn arbenigo mewn Cyfraith Amgylcheddol a Chyfansoddiadol.[4][7]
Gyrfa wleidyddol
golyguAr 5 Mai 2011, etholwyd James fel Aelod Cynulliad dros etholaeth Gorllewin Abertawe.[2]
Ers hynny mae hi wedi eistedd ar nifer o bwyllgorau, gan gynnwys 'Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol', 'Pwyllgor Menter a Busnes' a 'Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd'. Mae hi wedi cadeirio grwpiau gorchwyl a gorffen caffael a physgodfeydd cyffredin[8]
Penodwyd James ym Medi 2014 fel y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg yn dilyn ad-drefnu gan Carwyn Jones, yn disodli Ken Skates a benodwyd yn Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.[9]
Ar 3 Tachwedd 2017, fe'i penodwyd yn Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip gyda chyfrifoldeb dros isadeiledd ddigidol a sgiliau. Ar 13 Tachwedd 2018 o dan arweinyddiaeth Prif Weinidog newydd, fe'i penodwyd i'r cabinet llawn fel Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.
Bywyd personol
golyguBu farw ei phartner tymor hir mewn gwrthdrawiad car yn 1988 pan oedd eu merch yn 11 mis oed. Roedd yn byw yn Llundain ar y pryd, newydd gymhwyso fel fargyfreithiwr. Wedi hyn penderfynodd newidiodd gyrfa ac ath i weithio ym myd llywodraeth leol yn Camden yng ngogledd Llundain. Fe ail-briododd gyda David Flatt a mae ganddynt ddau o blant eu hunain.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Julie JAMES. Tŷ'r Cwmniau. Adalwyd ar 2 Mawrth 2021.
- ↑ 2.0 2.1 "Wales elections > Swansea West". BBC News. 6 May 2011. Cyrchwyd 8 Mawrth 2011.
- ↑ "Julie James | The Welsh Labour Party". Welshlabour.org.uk. 2010-02-27. Cyrchwyd 2011-11-21.[dolen farw]
- ↑ 4.0 4.1 "About Julie James AM - Assembly Member Website". juliejamesam.co.uk. 2016-04-11. Cyrchwyd 2016-04-11.[dolen farw]
- ↑ "All About Julie - Campaign Website". swanseawest.wales. 2016-04-11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-24. Cyrchwyd 2016-04-11.
- ↑ 6.0 6.1 AS wedi 'dysgu byw gyda'r profiad' o golli ei gŵr , BBC Cymru Fyw, 4 Awst 2021.
- ↑ "Facebook Campaign Page". Facebook.com. 2016-04-11. Cyrchwyd 2016-04-11.
- ↑ "Julie James, Swansea West - Welsh Labour". Welshlabour.wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-18. Cyrchwyd 2016-04-11.
- ↑ "New Cabinet announced by First Minister - Welsh Government". http://gov.wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-06. Cyrchwyd 2016-04-11. External link in
|publisher=
(help)
Dolenni allanol
golygu- Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Gwefan wleidyddol Archifwyd 2019-03-01 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan ymgyrch etholiadol
- Proffil Llafur Cymrul Archifwyd 2016-04-18 yn y Peiriant Wayback