Buchedd Cybi

casgliad o lawysgrifau a ganfuwyd yn 2017 ar y sant o Ynys Môn

Hanes canoloesol bywyd Cybi yw Buchedd Cybi a gedwir yn llawysgrif Cotton Vespasian a.xiv ac mewn llawysgrif yn Llyfrgell Beinecke ym Mhrifysgol Yale, New Haven, Connecticut.[1]

Darlun o Sant Cybi, ar ffenestr yn Eglwys Sant beuno, Penmorfa, Gwynedd.

Ceir copi o fersiwn unigryw o'r Fuchedd yn Yale, Llyfrgell Beinecke (Osborn fb 229) ac fe'i ystyrir yn hynod bwysig gan ei fod yn rhoi golau newydd ar ein dealltwriaeth o hagiograffeg Gymreig. Mae'n gasgliado ddeunyddiau hagiograffaidd o'r 17g ac yn cynnwys copïau o destunau canoloesol yn Gymraeg, Lladin, a Saesneg.

Cymrawd ymchwil gyda phrosiect Vitae Sanctorum Cambriae yw David Callander a bu'n gweithio yn y llyfrgell rhwng a 2017–8; daeth o hyd i'r Fuchedd tra'n ymchwilio i'r ysgolhaig a'r Iesuwr William Farrar (Ebrill 1583 – c. 1637). Ceir yr unig gopi o'r Fuchedd yn Yale, Llyfrgell Beinecke, Osborn fb 229. Bydd David Callander yn cyhoeddi adroddiad ar y darganfyddiad yn y dyfodol agos.

Y testun pwysicaf yn y llawysgrif hon yw fersiwn unigryw o fuchedd Ladin ganoloesol Cybi (o Gaergybi, Ynys Môn). Mae'n cynnwys deunydd unigryw, gan gynnwys stori am Gybi'n symud maen mawr o'r fynedfa i fasilica Pedr a disgrifiad o gyfarfod rhwng Cybi a'r Pab.

Gweddïau golygu

 
Llyfrgell Beinecke, 2014

Mae gweddïau unigryw yn dilyn y Fuchedd newydd yn llawysgrif Yale, sydd bron yr un mor ddiddorol â'r Fuchedd ei hun. Rhoddant gipolwg unigryw ar grefydd ym Môn yn yr Oesoedd Canol. Ychydig iawn o ddeunydd litwrgaidd (sy'n ymwneud â seintiau Cymru) sydd wedi goroesi yng Nghymru.

Llyfrgell Beinecke golygu

Canfuwyd y llawysgrif yn un o lyfrgelloedd Prifysgol Yale, sef The Beinecke Rare Book & Manuscript Library. a leolir yn New Haven, Connecticut. Mae'r llyfrgell yn arbenigo mewn llyfrau prin ac yn gweithredu hefyd fel archifdy. Agorwyd yr adeilad yn 1963.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. seintiaucymru.ac.uk; Gwfan Seintiau Cymru; adalwyd 29 Ionawr 2019.
  2. "'Gordon Bunshaft on Beinecke Library'". Som.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Mehefin 2011. Cyrchwyd 2011-06-01. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)