Buchedd Dewi

testun crefyddol Cymraeg Canol sy'n adrodd bywyd Dewi Sant

Testun crefyddol Cymraeg Canol sy'n adrodd hanes bywyd Dewi Sant yw Buchedd Dewi. Mae'n gyfieithiad o'r testun Lladin Vita Davidis, a ysgrifennwyd tua'r flwyddyn 1094 gan Rygyfarch ap Sulien, ac enghraifft o fucheddau'r saint neu hagiograffeg yn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Hon yw'r ffynhonnell draddodiadol am fanylion bywyd Dewi, ond gan i waith Rhygyfarch gael ei ysgrifennu dros 500 mlynedd wedi i Dewi farw, mae amheuaeth pa mor ddibynadwy yw'r hanes. Ceir y testun Cymraeg Canol mewn sawl llawysgrif, gan gynnwys llsgr. Llanstephan 4,[1] llsgr. Llanstephan 27 (Llyfr Coch Talgarth),[2] a Llyfr Ancr Llanddewibrefi.[3]

Delweddau allanol
Tudalen o lawysgrif Llanstephan 4

Cyfeiriadau

golygu
  1. Llsgr. Llanstephan 4 Archifwyd 2020-08-09 yn y Peiriant Wayback, Rhyddiaith Gymraeg 1300–1425 (Prifysgol Caerdydd). Adalwyd ar 16 Mai 2017.
  2. Llsgr. Llanstephan 27 (Llyfr Coch Talgarth) Archifwyd 2020-08-09 yn y Peiriant Wayback, Rhyddiaith Gymraeg 1300–1425 (Prifysgol Caerdydd). Adalwyd ar 16 Mai 2017.
  3. Llsgr. Coleg yr Iesu 119 (Llyfr Ancr Llanddewi Brefi)[dolen farw], Rhyddiaith Gymraeg 1300–1425 (Prifysgol Caerdydd). Adalwyd ar 16 Mai 2017.

Llyfryddiaeth

golygu