Buhez Santez Nonn

Drama firagl yn yr iaith Lydaweg yw Buhez Santes Nonn (Cymraeg: Buchedd Santes Non). Mae'n destun Llydaweg Canol sy'n adrodd hanes bywyd (buchedd) Non, y santes o Gymraes sy'n fam i Ddewi Sant.

Fersiwn 1837 o'r ddrama

Roedd yn cael ei pherfformio yn gyhoeddus am ganrifoedd yn pardon Non ym nhref Dirinon, Finisterre, Llydaw, lle credid fod Non wedi'i chladdu.

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu

Ceir y testun gwreiddiol gyda chyfieithiad Ffrangeg a nodiadau yn:

  • E. Ernault (gol. a chyf.), 'La Vie de Sainte Nonne', Revue celtique 8 (1887), tt. 230-301, 405-491.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.